Wythnos wedi darlledu galwad am wybodaeth am lun The Tree of Life ar y rhaglen radio Bwrw Golwg cyhoeddwyd y gellid ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau a godwyd wythnos ynghynt.
Dyma oedd gan gynhyrchydd y rhaglen, Karen Owen, i'w ddweud ar rifyn Ionawr 11, 2009, o Bwrw Golwg am y darlun sydd erbyn hyn yng nghartref Tecwyn a Glenda Hughes ym Methel ger Caernarfon:
Y Parchedig Wyld
"Dewch i ni ddechrau efo'r Parchedig Joseph William Wyld [y mae ei enw ar y llun].
"Mi fedrwn ni gadarnhau mai Sais oedd o, wedi ei eni ym Middlesex yn y flwyddyn 1816. Roedd o'n offeiriad ac wedi hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr ac wedi ei alw i'r bar yn y flwyddyn 1841.
"Daethom o hyd iddo fo ar Gyfrifiad 1851 ar un o'i ymweliadau cyson 芒 dinas Southampton erbyn hynny ac yn y fan honno mae o'n ei ddisgrifio ei hun fel "independent minister, g诺r priod, a non practising barrister".
Yn 1857, symudodd i fyw ym Manceinion lle daeth yn Ddeon Eglwys Santes Ann yn y ddinas.
"Gallwn hefyd ddweud mai yno y bu tan ei farwolaeth. Cyhoeddwyd erthygl ym mhapur newydd y Manchester Times Chwefror 27, 1869, yn s么n em benodi olynydd iddo yn Eglwys Santes Fair Crumpsell, Manceinion, yn dilyn ei farwolaeth ym mis Ionawr 1869.
Cyhoeddi cyfrol
Wedyn, efo cymorth Aled Betts o Adran Gwasanaethau Casgliadau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ddaethon o hyd i ychydig mwy am gyfrol a gyhoeddwyd gan Wyld yn 1850, Brief Sketches, from the Earliest Days to the Present, of the Chief Religious Communities, Sects etc
sef cyfieithiad o'r geiriau Cymraeg ar y Beibl yng nghornel y darlun sy'n awr ym Methel.
Er inni geisio cael gafael ar gopi o'r gyfrol, oyn 么l cofrestr llyfrgelloedd gwledydd Prydain, yr unig gopi sydd ar gael yw un yn Llyfrgell Shields, Califfornia.
Ond fe ddaethom o hyd i un ar werth ar y We hefyd - gan lyfrwerthwr o America am 拢14.88 ond yn 么l y disgrifiad mae cyflwr y copi hwnnw yn wael iawn.
Dan y morthwyl
Ond beth gop茂au eraill o'r darlun tair troedfedd wrth ddwy?
Y tro diwethaf i un o'r rhain fynd dan y morthwyl yn un o'r prif arwerthiannau celf, oedd yn 2005 yn y Long Street Salerooms yn Sherborne, Dorset gydag amcan bris o rhwng 拢40 a 拢60.
A dyna ni beth o hanes The Tree of Life darlun James Robertson Collie a gafodd ei gynnwys yng nghyfrol y Parchedig Joseph William Wyld.
Cychwyn yr hanes ar Bwrw Golwg
|