|
Mae yna dros 250 mlynedd ers i'r Meseia gan Handel gael ei berfformio am y tro cyntaf yn ninas Dulyn, Iwerddon.
Ar Ebrill 20 eleni, daeth 800 o bobol i gapel Jerusalem, Bethesda, i weld a chlywed cynhyrchiad cymunedol o Teilwng yw'r Oen, addasiad modern o waith gwreiddiol Handel.
Yn ystod mis Mai, mae cyfle i wrandawyr Radio Cymru wrando ar ddetholiad o'r noson arbennig hon.
Cynhyrchiad cymunedol go iawn oedd Teilwng yw'r Oen Dyffryn Ogwen - roedd 75 o aelodau yn y c么r a fu'n cyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos ers dechrau Ionawr; roedd 15 o offerynwyr yn y gerddorfa fyw, yn cynnwys cerddorion o'r byd gwerin, roc a'r clasurol.
Roedd pump o arweinwyr profiadol yn gyfarwyddwyr cerdd, yn gofalu am y gerddoriaeth - Menai Williams, Sioned Webb, Owain Davies, Steven Rees a Beti Rhys.
Darlledwyd detholiad o Teilwng yw'r Oen ar Yr Oedfa, Sul y Pentecost, Mai 11.
Ar oedfa Mai 4 rhoddwyd sylw i gyfraniadau'r beirdd a'r llenorion Iwan Llwyd, Gwynfor ab Ifor, Ieuan Wyn, Annes Glynn a Manon Steffan Ros i'r digwyddiad, a phob un ohonyn nhw wedi cyfansoddi cerdd newydd sbon yn gyflwyniad i'r noson.
Unawdwyr cynhyrchiad Bethesda o Teilwng yw'r Oen oedd Martin Beattie, Lleuwen Steffan a Lisa J锚n, pob un ohonyn nhw'n hanu o Ddyffryn Ogwen ac wedi gwneud eu marc yn y s卯n gerddoriaeth.
Y ddau lefarydd profiadol, John Ogwen ac Angharad Llwyd, oedd yn cyflwyno'r darlleniadau ar y noson, a'r Oedfa ar Fai 11.
|
|