Mae gweinidog o Gymro a fu'n gweinidogaethu am 40 mlynedd yn Lloegr yn dweud na fu'n dderbyniol yng Nghymru oherwydd ei fod yn perthyn i'r blaid wleidyddol anghywir.
Dywedodd y Parchedig Dr D Ben Rees ei fod ef wedi "diodde'n arw" o fewn y drefn enwadol Gymraeg dros y blynyddoedd oherwydd ei ddaliadau sosialaidd yn hytrach na bod yn aelod o Blaid Cymru.
Yr oedd y Dr Rees, sy'n ymddeol wedi deugain mlynedd yn weinidog gyda'r Presbyteriaid yn ninas Lerpwl, yn siarad ar y rhaglen radio 'Wythnos Gwilym Owen' ddydd Llun 14 Ionawr 2008.
Wrth ganmol y ffordd y caniataodd ei eglwys yn Heathfield Road, Lerpwl, iddo ddilyn ei ddiddordebau gwleidyddol a sefyll yn ymgeisydd seneddol ddwywaith dywedodd na fyddai hynny wedi bod yn bosibl pe byddai wedi aros i weinidogaethu yng Nghymru.
"Yr ydw i wedi bod yn hynod o ffodus . . . achos dwi wedi gwneud pethau nad yw yr un gweinidog arall wedi eu gwneud fel sefyll etholiad seneddol ddwywaith," meddai.
"Mae pethau fel yna yn dangos fod Cymry mewn dinas fel hon yn edrych ar faterion mewn ffordd wahanol. Dydyn nhw ddim mor gul a phlwyfol ag ydym ni yn ei gael yn aml iawn mewn capeli Cymraeg yng Nghymru," ychwanegodd.
Ond yng ngolwg y gyfundrefn grefyddol yr ochr hon i Glawdd Offa dywedodd mai ei bechod mwyaf oedd ei ddewis o blaid wleidyddol, y Blaid Lafur.
Ei gadw allan "Dyna un peth sydd yn amlwg iawn; maen nhw'n fy nghadw i allan o lawer o bethau oherwydd hynny. Pe byddwn i'n aelod o Blaid Cymru fe fyddwn i wedi cael llawer iawn mwy o gyfleusterau gan yr enwad ond oherwydd eich bod chi'n sosialydd ac yn perthyn i'r Blaid Lafur - wel mae hynny bron fel pe byddech chi'n mynd yn noethlymun ar hyd y stryd i rai o nghyd weinidogion a nghyd flaenoriaid yng Nghymru.
"Maen nhw mor eithafol dros Blaid Cymru maen nhw'n edrych arnoch chi fel pe byddai cyrn gennych chi.
"Rydw i wedi diodde'n fawr am hynny achos dydy nhw ddim eisiau rhywun sydd ddim yr un lliw a nhw," meddai.
"Ar un adeg mewn ymneilltuaeth, os nad oeddech chi'n perthyn i'r Blaid Ryddfrydol roedd hi'n ddrwg arnoch chi ac wedyn yn y de fe gafodd y Blaid Lafur ryw ychydig, dim llawer, ac yna fe ddaeth Plaid Cymru.
Pobl y Blaid "A phe byddech chi yn mynd drwy bac y mwyafrif sydd yn arwain ymneilltuaeth Gymraeg fe fyddech chi yn sylwi mai pobl Plaid Cymru ydyn nhw.
"Eithriad ydi cael rhywun - mae yna frawd yn y de sydd gyda'r Ceidwadwyr ac yr ydw innau yn y gogledd yma gyda'r Sosialwyr ond prin ydym ni y tu allan i gylch cenedlaetholdeb a Phlaid Cymru," meddai.
Ychwanegodd nad awgrymu nad oes llawer o wir Gristnogaeth yn eu plith yr oedd ond dywedodd:
"Ond y maen nhw wedi cael eu llyncu gan genedlaetholdeb ac yr ydw i wedi ceisio dangos o hyd bod yna le i bobl sydd ddim yn genedlaetholwyr.
"Hynny ydi, rydw i wedi sefyll dros y Gymraeg, sefyll dros bob peth pwysig yngl欧n 芒 Chymru ond dydw i ddim yn teimlo mai Plaid Cymru ydi yr achubiaeth i Gymru [ac] mae'r mwyafrif o bobl Cymru yn teimlo yr un fath.
"Hynny ydi, maen nhw wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur dros y blynyddoedd felly rydw i yn y mwyafrif - ond dydw i ddim yn y mwyafrif o fewn strwythur enwadaeth Gymraeg ac rwy'n gwybod nad ydi hynny wedi bod [yn lles i mi] ond mae'n rhaid ichi gredu yr hyn ydych chi yn ei gredu a does dim cymrodeddu yn hynny o beth," meddai.
Angen pontio Awgrymodd y gallai hyn fod yn gyfrifol am ddirywiad enwadaeth Gymraeg.
"Pe byddem ni wedi llwyddo i bontio y carfannau sydd yng Nghymru - pe byddem ni wedi bod yn fwy sosialaidd ein hysbryd.
"Mae yna rwyg mawr wedi digwydd rhwng ymneilltuaeth a rhwng y werin Gymraeg ac mae llawer ohono oherwydd nad ydym wedi pontio y gagendor yma."
Dim dychwelyd Dywedodd nad yw'n fwriad ganddo ddychwelyd i Gymru yn awr ei fod yn ymddeol o'i ofalaeth yn Lerpwl.
"Fe fyddwn i'n ei chael yn anodd o be rydw i'n ei glywed am y modd mae pobl yn edrych ar bethau.
"Fe fyddwn i'n dweud y drefn wrthyn nhw [achos] dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn llawer mwy goddefgar ac yn fwy agored a chroesawu pobl, ennill y Saeson i fod yn rhan o'r genedl Gymraeg, y rhai sy'n dod i mewn, y mewnfudwyr . mae angen inni fod yn llawer mwy gweithgar yn hynny o beth, codi pontydd," meddai.
Disgrifiodd Lerpwl fel dinas sydd ar i fyny:
"Fe fyddai'n anodd codi pac o'r fan hyn ac mae yna gymaint yn digwydd yn ninas Lerpwl ac mae'n mynd i newid mwy fyth mewn blwyddyn neu ddwy fe fydd fel dinas ogoneddus. Mi fydd hi fel dinas nefol yma," meddai.
"Mae Glasgow wedi ennill bywyd newydd ar 么l Blwyddyn Diwylliant 1990 ac mae cymaint o newid yn digwydd [yn Lerpwl] mi fydd yn ddinas gwerth byw yma a'r Cymry Cymraeg sydd yma yn mynd i elwa llawer iawn oherwydd y bydd hi yn ddinas mor arbennig," meddai. ,br>
Ychwanegodd bod gan Gymry lerpwl barch "aruthrol" i'r weinidogaeth hefyd.
Gan gyfeirio at deitl llyfr gan Colin Wilson ychwanegodd ei fod yn gweld ei hun fel tipyn "Outsider" o fewn ei enwad yng Nghymru.
"Fe fyddwn i'n meddwl mai dipyn o 'Outsider' ydw i ond yma yn Lerpwl dwi'n 'Insider' ac mae'n debyg mai dyna oedd Rhagluniaeth am imi wneud - i fynd yn alltud a dwi di bod yn alltud nawr ers deugain mlynedd," meddai.
Tri gweinidog yn ymateb i'r sylwadau
|