成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Rowan Williams 'Gwneud cam a meddyliwr eneidfawr'
Yr Arglwydd Elystan Morgan yn achub cam Archesgob Caergaint
Fel dyn galluog ac eneidfawr sydd wedi ei gamddeall yn ddirfawr y disgrifiwyd Archesgob Caergaint, y Tra Barchedig Rowan Williams gan un o gyn farnwyr Cymru.

Yr oedd Yr Arglwydd Elystan Morgan yn ymateb i'r don o brotest a ddilynodd sylwadau Rowan Williams am gyfraith Sharia y Moslemiaid mewn darlith gerbron yr Uchel Lys Brenhinol.




  • Cliciwch YMA i glywed ymateb Karen Owen, cynhyrchydd rhaglenni crefydd 成人快手 Cymru, a Lyn Lewis-Dafis, sylwebydd ar faterion eglwysig.


    Ysgolhaig mwyaf
    "Dwi'n credu mai'r hyn sydd gennych chi yma yw un o ysgolheigion mwyaf disglair y deyrnas yma; dyn eneidfawr, dyn sydd eisiau gweld deall goddefgarwch, parch, tuag at grefyddau eraill ac yn credu ei fod yn cario allan gomisiwn yr Arglwydd Iesu Grist trwy wneud hynny.

    "Ac mae'n felltith o beth ei fod yn cael ei ddilorni yn y modd yma," meddai ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul, 10 Chwefror 2008 lle'r oedd yn cael ei holi gan John Roberts.

    Yn ei ddarlith yn yr Uchel Lys Brenhinol eglurodd John Roberts i Rowan Williams ddweud ei bod "yn anorfod" y bydd cyfraith Loegr yn derbyn elfennau o gyfraith Sharia yn y dyfodol - sef cyfraith wedi ei sylfaenu ar ysgrythurau Islam Ond yn 么l y cyn farnwr, Elystan Morgan, yr oedd yr ymateb ffyrnig i'r ddarlith yn arwydd o gamddeall dybryd o'r hyn oedd gan Rowan Williams mewn golwg.

    Hogi cyllyll
    "Mae llawer o gamddeall wedi bod ac mae yna hefyd, mae'n ddrwg gen i ddweud, nifer sydd wedi bod yn hogi cyllyll ers blynyddoedd ar gyfer yr Archesgob," meddai.

    "Dydw i ddim credu fod yr Archesgob am funud yn awgrymu y dylid ymgorffori elfennau sylweddol o gyfraith Sharia yn ein cyfraith ni - nid am hynny yr oedd e'n s么n," ychwanegodd.

    "Athronydd ac ysgolhaig ydi e ac mae'n anodd iawn weithiau i wybod yn union beth mae o'n i ddweud ond dydw i ddim yn credu am funud fod yna unrhyw gynnig, er enghraifft, i ddod ag elfennau fel hawl person i gael pedair gwraig, hawl wedyn yngl欧n 芒 chyfraith rape - nad oes gan wraig hawl i wneud achwyniad oni bai bod yna bedwar o dystion i'r weithred honno a'r rheini i gyd yn ddynion.

    "Mae yna elfennau ofnadwy yn perthyn i gyfraith y Koran ac mae llawer gwlad yn gweinyddu cyfraith sydd yn fwystfeilig; dyn yn colli'i law am ladrad, gwraig yn cael ei llabyddio am odineb - ond nid s么n am hynny yr oedd e ond am rywbeth cwbl wahano," meddai.

    "Ac fe ddylem ni ganolbwyntio fod yna ers rhyw ugain mlynedd bellach ym Mhrydain, o Swydd Efrog lawr i Lundain, nifer o lysoedd Sharia ac mae'r rhain yn llysoedd y mae miloedd o bobl yn dod iddyn nhw ond dod iddyn nhw maen nhw i bwrpas arbitration.

    "Mae fel pe byddai gennych chi ddau ddyn mewn ymryson cyfreithiol [ac] maen nhw'n dweud, 'Yn hytrach na mynd i'r Uchel Lys fe awn i arbitration ac fe gytrunwn ar hyn'.

    Heb danseilio
    "Dydi hynny ddim yn golygu am funud eich bod yn tanseilio cyfraith Prydain. A dyna sydd wedi digwydd yn yr achosion yma," meddai.

    Ychwanegodd bod yna hefyd lysoedd ym Mhrydain gan yr Iddewon "ers cannoedd o flynyddoedd" sydd yn cael eu cydnabodgan gyfraith Prydain.

    Eglurodd yr hyn all ddigwydd yn nghyd-destun ysgariad Iddewig. Mae deuoliaeth yn y byd masnachol hefyd, meddai.
    "Meddyliwch am gytundebau masnachol. Fe allwch chi gael sefyllfa fel hyn: Mae dyn o Brydain yn dod i gytundeb gyda dyn o Ffrainc a'r cytundeb hwnnw yn cael ei arwyddo yn Sbaen ac maen nhw'n cytuno mai cyfraith yr Eidal sydd i weinyddu'r contract yna.

    "[Mewn achos felly] fe fyddai llys Prydain yn gweinyddu cyfraith yr Eidal am fod y bobl yna wedi cytuno i'r union bwrpas yna," eglurodd.

    "Fe ddywedodd [Rowan Williams] yn blaen, 'Peidiwch a meddwl fy mod i am osod i fyny parallel jurisdiction - hynny ydi, cyfundrefn gyfochrog a fyddai'n rhedeg ochr yn ochr a chyfraith Prydain . Gwnaeth hynny yn hollol glir.

    'Melltith o beth'
    "Dwi'n credu mai'r hyn sydd gennych chi yma yw un o ysgolheigion mwyaf disglair y deyrnas yma; dyn eneidfawr, dyn sydd eisiau gweld deall goddefgarwch, parch tuag at grefyddau eraill ac yn credu ei fod yn cario allan gomisiwn yr Arglwydd Iesu Grist trwy wneud hynny ac mae'n felltith o beth ei fod yn cael ei ddilorni yn y modd yma," meddai.

    Dywedodd bod y gyfraith yn barod, pan yn delio gyda chwestiwn o fabwysiad neu ysgariad ac yn y blaen yn ystyried cefndir diwylliannol a chefndir crefyddol gw欧r a gwragedd.

    "A dwi'n meddwl mai s么n am beth fel hynny yr oedd e nid s么n o gwbl am ymgorffori y gyfraith yngl欧n 芒 lladrad neu rywbeth felly fel rydych yn ei gael mewn gwledydd Moslemaidd.

    "Ac mae'r gyfraith yn gorfod cymryd rhyw fath o ystyriaeth o hynny yn barod," meddai gan gyfeirio at ddyfarniad "aruthrol" gan yr diweddar Arglwydd Scarman mewn achos o fabwysiad.

    "Ac mae e'n dweud fel yr oedd ef wedi ei ddwyn i fyny ar aelwyd gaeth Iddewig ac mor ddiolchgar oedd e fod ei rieni yn Iddewon orthodocs ac yn addasu y sefyllfa honno i ddelio gydag amgylchiadau nid yn unig gydag Iddewon ond gydag amgylchiadau crefyddol nid annhebyg i'r rheini.

    "Chafodd e mo'i gondemnio am hynny o gwbl ac yr oedd beth oedd ganddo i'w ddweud yn cael ei dderbyn yn gyffredinol," meddai.

    . Felly beth, yn ei dyb ef, aeth o'i le yn achos Rowan Williams?

    "Rydw i'n credu mai mater o ddiffyg deall yw hyn [o] ysgolhaig disglair a bod pobl wedi methu a dirnad yn union beth oedd e'n seblio allan," meddai.

    'Yn anhygoel'
    Dyna hefyd neges Alun Michael ar y Post Cyntaf fore Llun, 11 Chwefror 2008.

    Dywedodd fod yr ymateb i'r hyn ddywedodd Rowan Williams "yn anhygoel".

    "Yr oedd o'n rhoi araith oedd yn meddwl yn ddwfn iawn am y pynciau ac rydym wedi gweld pobl yn mynd yn erbyn popeth mae o wedi'i ddweud a'r rhan fwyaf o bobl yn ei farnu heb fod wedi darllen gair o beth mae o wedi ddweud," meddai.

  • Cliciwch YMA i glywed ymateb Karen Owen, cynhyrchydd rhaglenni crefydd 成人快手 Cymru a Lyn Lewis-Dafis. sylwebydd ar faterion eglwysig.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy