成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Trefor Selway - Ioan y Disgybl Annwyl Oedfa bore Gwener y Groglith 2009
Myfyrdod Ioan y Disgybl Annwyl
Oedfa Bore'r Groglith 2009
Aduniad y Disgyblion, trwy lygad Ioan

1230 Gwener y Groglith ar 成人快手 Radio Cymru Darlleniad 1 - Ioan 1: 1-5 a 14-18

Myfyrdod 1
Bore da i chi, a chroeso i Oedfa'r Groglith ar Radio Cymru. Dewch efo fi i mewn i fan hyn.

A be' mae hen ddyn fel fi'n dda yn fan hyn, meddech chi? Be' mae hen ddyn yn dda yn Jerwsalem ar 诺yl y Pasg, yng nghanol yr holl bobol yma?

Galwch o'n droedio hen lwybrau, yn hel cysgodion neu'n nostalgia ... dw i wedi dod yma heddiw ar gyfer aduniad y Disgyblion.

O ia, mi anghofiais i ddweud, Ioan ydw i. Brawd Iago. Un o 'feibion y Daran', fel oedd Iesu'n arfer ein galw ni. Neu'r disgybl annwyl. Ac mi dwi yma heddiw i gyfarfod gweddill yr hogiau ... ond fydd y deuddeg ohonan ni ddim yma, wrth gwrs.

Fydd Jwdas ddim yn gallu bod yma - be ddaeth dros ei ben o, dwch - a fydd Iago, fy mrawd innau ddim yma chwaith - mi gafodd o ei ladd gan Herod (Actau 12: 1 a 2):

"Tua'r amser hwnnw, fe gymerodd y Brenin Herod afael ar rai o'r eglwys i'w drygu. Fe laddodd Iago, brawd Ioan 芒'r cleddyf. A phan welodd fod hyn yn gymeradwy gan yr Iddewon, aeth ymlaen i ddal Pedr hefyd."

Fel'na oedd hi yn nyddiau cynnar yr Eglwys, dach chi'n gweld. Roedd yna erlid ofnadwy arnon ni, achos doedd pobol ddim yn licio'r ffaith ein bod ni'n herio eu hen ffordd nhw o wneud pethau.

Fel'na mae'r Drefn o hyd, cofiwch - dydi pethau ddim wedi newid llawer, os o gwbwl - ac mae Cristnogion yn dal i gael eu rhoi ar brawf, eu poenydio a'u lladd oherwydd yr hyn y maen nhw'n ei gredu a'i arddel.

Ches innau ddim bywyd mor hawdd 芒 hynny chwaith - ond fi ydi'r cynta i gyfaddef fy mod i'n lwcus i fod yn fyw o gwbwl. Mi fues i cyn belled 芒 Rhufain, ond mi ges i fy nal a'r bwriad oedd fy nhaflu'n fyw i grochan o olew berwedig. Dyna i chi goblyn o ffordd i fynd. Ond mi ges i fy achub, does dim dwywaith amdani.

Yn hytrach na fy lladd, mi ges i fy nedfrydu i weithio yng ngweithfeydd ynys Patmos. Rhyw fath o garchar mawr oedd yr ynys gyfan, ond ro'n i'n ddigon bodlon yno.

Yno y sgwennais i fy Natguddiad. Pan ges i fy rhyddhau, wedi blynyddoedd maith, mi es gyn belled 芒 Thwrci ac yno dwi'n bwriadu treulio gweddill fy nyddiau.

O, mae yna lot wedi digwydd i ni'n Deuddeg ers Pasg y flwyddyn 33. Mi newidiodd y gwyliau hwnnw ein bywydau ni am byth.

Does gen i ddim syniad faint droith i fyny heddiw, cofiwch. Mi anfonais i'r gwahoddiadau allan ond does yna ddim byd wedi dod yn 么l.

(Yn siarad efo'r person y tu 么l i'r bar) Helo. Efo chi siaradais i ar y ff么n, ia? Dw i wedi bwcio'r Oruwch Ystafell ar gyfer 13 tri o bobol ...

(Wrth gyrraedd yr ystafell) Ah, ia. Dwi'n cofio'r lle yn iawn. Mae'n rhyfedd fel y mae pethau'n dod yn 么l, dydi? Mi ddylai fod y CD anfonais i o'r cyfarfyddiad cynta wedi ei rhoi yn y peiriant yn barod. Dowch i ni weld os ydi o'n chwarae ...

( Mathew 9:35 - 10:8)

Myfyrdod 2
Neb byth wedi cyrraedd. (drws yn agor) Helo - llythyrau? Dowch i mi gael gweld ... (S诺n agor amlen)

'Mae'n ddrwg gen i, ond fydd Pedr ddim yn bresennol yn yr aduniad eleni. Cafodd ei chwipio ac yna ei groeshoelio ben i waered tua'r flwyddyn 64.

Cafodd Andreas, ei frawd, hefyd ei ladd ar y groes oherwydd ei waith yn pregethu efengyl Iesu Grist.'

Wel, wel. Pedr ac Andreas wedi mynd.

(S诺n agor amlen) Pwy ydi hwn, tybed? 'Diolch i chi am y llythyr anfonwyd at Philip yngl欧n ag aduniad y disgyblion. Byddai wedi bod wrth ei fodd yn cyfarfod yr hen griw eto ond bu farw tua'r flwyddyn 54, ar 么l cael ei groeshoelio.'

Philip hefyd?

(S诺n agor amlen) Amlen arall eto, dwi ddim yn gwybod os ydw i eisio gweld hwn ...

'Gyda gofid yr ydw i'n anfon nodyn i ddweud na fydd Bartholomeus yn aduniad y disgyblion eleni. Cafodd ei ferthyru dros yr achos ar lan M么r Caspian yn Dagestan, dwyrain Ewrop ac yntau'n Gristion ifanc, brwdfrydig.'

(S诺n amlen arall) 'Tristwch o'r mwyaf yw hi i deulu Alffeus orfod cyhoeddi marwolaeth Iago fab Alffeus, ar 么l cael ei groeshoelio, ei labyddio a'i guro i farwolaeth oherwydd ei ddaliadau.'

Bobol annwyl. Maen nhw i gyd wedi mynd! I gyd wedi eu lladd yn enw Crist!

Mae hyn i gyd yn dod ag erchyllterau Pasg 33 yn 么l yn glir. Dwi'n cofio sefyll wrth odre'r groes front yna. Dwi'n cofio'r gweiddi, y gwawdio, yr oglau gwaed ... A dwi'n cofio addo i Iesu y baswn i'n edrych ar 么l ei fam o:

Darlleniad 2 - Ioan 19: 25-27

Yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll gyda'i chwaer, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen. Pan welodd Iesu ei fam, felly a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, "Wraig, dyma dy fab di." Yna dywedodd wrth y disgybl, "Dyma dy fam di." Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.

(S诺n blipio tecst ff么n poced ) O, neges destun. Dwy ohonyn nhw.

'Marw Mathew. Trywanu yn Ethiopia. 60OC.'

Yr hen gasglwr trethi. Mi gymrodd hi dipyn i mi ddod i'w licio fo. Mi oedd Iesu'n gwneud hynny - yn dod 芒 phobol annhebygol iawn at ei gilydd. Ond, oes yna ddim diwedd ar yr erlid yma? (S诺n blipio tecst ff么n poced) A phwy sydd wedi anfon hon 'ta?

'Tomos concro amheuon, marw cenhadwr Madras, India 72 OC.'

Tomos, druan. Ond dwi'n falch ei fod o wedi marw yn y ffydd. Fo oedd yr unig un oedd yn fodlon cyfaddef nad oedd o'n gallu credu'r busnes atgyfodi yna. Trwyddo fo, mi gawson ni i gyd weld 么l yr hoelion yng nghorff Iesu.

Felly pwy sydd ar 么l, dwch? Seimon y Selot. Thadeus. A Mathias, wrth gwrs - y fo ddewison ni yn lle Jwdas Iscariot. O, ia. Marwolaeth ofnadwy gafodd yntau hefyd, ynte - roedd o'n methu maddau iddo fo'i hun ar 么l bradychu Iesu. Dydi tri deg darn o arian ddim yn dod yn agos at gyfro'r gost ...

(Darlleniad Jwdas Iscariot)

O, mae'r derbyniad yn wael yn fan hyn. Ond dyna oedd y pwynt yn wreiddiol, wrth gwrs - lle i guddio oedd o. Mi fuon ni yma am wythnosau ar 么l y croeshoeliad yn ofni mynd allan ac yn methu dangos ein hwynebau i neb.

Oedd Iesu wedi marw, oedd y rheswm dros bob peth oeddan ni wedi bod yn wneud ers tair blynedd, wedi dod i ben. Be' fasach chi wedi'i wneud?

(Ff么n mobeil yn canu - Voicemail Seimon y Selot)

Seimon wedi ei groeshoelio hefyd? Sy'n gadael Thadeus a Mathias. Cym on rwan, bois ... (Ff么n mobeil yn canu - Voicemail Thadeus a Mathias)

Wel, feddyliais i erioed mai fi fyddai'r unig un yma. Fi yr unig un sydd wedi cael gweld fy henaint. Mi gafodd fy nhad fyw'n hen hefyd, digon hen i weld dau o'i feibion yn cael eu dewis gan Iesu i fod yn aelod o'r giang.
Giang ryfedd oeddan ni hefyd. Ond maen nhw i gyd wedi mynd.

Does dim amdani ond mentro allan yn 么l i'r byd. Llusgo i lawr y grisiau yna, trwy'r bobol yn y bar ac allan i'r stryd i ganol mwy o bobol. Be' arall wna' i?

Heddiw, n么l yn y flwyddyn 33, mi laddwyd ein hathro a'n harweinydd. Dros y blynyddoedd, mi aethon ni o un i un.

A lwyddon ni i iachau'r cleifion, i gyfodi'r meirw, i lanhau'r gwahanglwyfus?

A lwyddon ni i osgoi cadw'n gaeth at y bobol gadwedig a mynd allan i'r byd a chyfarfod pobol nad oeddan nhw o'n corlan ni?

A lwyddon ni i ddweud digon am Iesu Grist, trwy'r ffordd y buon ni fyw - a marw?

Darlleniad 3 - Ioan 20: 30-31
Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ng诺ydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi. Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef.

  • Mae'r gwasanaeth tan ddydd Gwener nesaf.

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy