成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Capel bethel Trevelin Patagonia - trai yn y capeli
Pryderu fod llai a llai yn addoli yn y Gymraeg
Yn llythrennol bron mae capeli'r Wladfa ym Mhatagonia yn lleoedd lle nad oes ond "dau neu dri" yn dod ynghyd i addoli yn y Gymraeg.


Darlun trist iawn o gyflwr capeli Cymraeg Patagonia a gafwyd mewn sgwrs ar Bwrw Golwg Medi 1, 2007.


Bu Mair Davies, Cymraes o Gymru a fu'n cadw siop yn gwerthu llyfrau Cristnogol yn Nhrelew, yn cenhadu ac yn efengylu yn y Wladfa ers yr Wythdegau - ond er iddi weld ffrwyth i'w llafur yn y Sbaeneg dywedodd mai prinhau mae'r addolwyr Cymraeg.


Yn cael ei holi gan John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, dywedodd Miss Davies:



Wedi mynd i lawr
"Ar hyn o bryd mae'r oedfaon Cymraeg wedi mynd lawr yn rhyfeddol.


"Rwy'n cofio n么l rai blynyddoedd; yr oedd yna rhyw ddeugain yn dod i'r oedfa. Yn awr, y misoedd olaf yma yn y gaeaf, maen nhw wedi mynd lawr i ddeuddeg, i bymtheg.


"Rydym yn meddwl nawr bydd y tywydd yn gwella a Mr Edwards [Y Parchedig W J Edwards o Bow Street, Ceredigion, a fydd yn treulio tri mis yn pregethu ac yn bugeilio ym Mhatagonia] yn dod y bydd y rhif yn mynd i fyny - i ugain dwedwch chi - ond mae'r oedfaon Cymraeg wedi gwanhau."


Ar wah芒n i ymweliadau achlysurol gweinidogion o Gymru Mair Davies yw'r unig un sy'n pregethu yn y Gymraeg ym Mhatagonia ar hyn o bryd.


Diddordeb yn yr iaith
Y rhyfeddod yw fod y dirywiad crefyddol yn digwydd yr un adeg ag y mae cynnydd sylweddol yn y diddordeb mewn siarad Cymraeg gydag ysgol Gymraeg newydd wedi ei hagor yn Nhrelew yn ddiweddar a chanolfan Gymraeg newydd wedi ei hagor yn Esquel yn yr Andes.


Ond yn 么l Mair Davies dydi'r brwdfrydedd hwnnw ddim yn cael ei adlewyrchu yng ngweithgarwch yr eglwysi.


"Mae yna bobl ifanc wedi meistroli'r Gymraeg ac yn y blaen ond dydyn nhw ddim yn dod i'r oedfaon Cymraeg," meddai.


"Mae yna rywbeth yn debyg wedi digwydd yng Nghymru - dydyn nhw ddim yn dangos diddordeb," ychwanegodd.


Ac er bod Ysgol Sul "lewyrchus" o tua 80 o aelodau yn Nhrelew dywedodd mai dim ond y dosbarth i oedolion sy'n Gymraeg


"Rai blynyddoedd yn 么l roedd yna 15-18 yn y dosbarth Cymraeg ond nawr mae e wedi mynd lawr i bump - rydym ni'n colli'r ffyddloniaid h欧n a does dim pobl yn dod i gymryd eu lle nhw," meddai gan ychwanegu bod llawer o weithgareddau'r eglwysi mewn Sbaeneg.


Mewn sefyllfa o'r fath dywedodd nad yw ymweliad tri mis gan weinidog o Gymru "yn ddim byd".


Yn yr Andes dywedodd nad oes unrhyw wasanaethau Cymraeg yng Nghapel Trevelin ers blynyddoedd - dim ond "ambell i gymanfa ganu".


Yn Seion, Esquel, gwasanaeth misol yn y Sbaeneg sydd yna.


Pam parhau?
Pan ofynnwyd iddi pam y mae hi'n parhau i weinidogaethu dan amgylchiadau mor dorcalonnus dywedodd;

"Ers y cychwyn cyntaf, fan hyn rydw i fod. Ewyllys Duw i mywyd i oedd, y Wladfa. Bod yn help ac yn gefnogaeth i'r gweithwyr yma ac o'r ochr Sbaeneg rwy'n gweld ffrwyth i'm llafur yn y capeli," meddai.


Yn yr eglwysi Cymraeg yn unig - a fu'n gymaint o asgwrn cefn i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ym Mhatagonia dros yr holl flynyddoedd - mae'r trai i'w weld.



  • W J Edwards yn mynd i Batagonia

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy