|
Fel diwinydd sydd wedi troi ei ddiwinyddiaeth yn rhywbeth ymarferol ar gyfer mynd i'r afael a chyflwr y byd a chymdeithas y mae awdur cofiant newydd yn gweld Rowan Williams, y Cymro sy'n arwain Eglwys Loegr.
Bu Cynwil Williams yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg am ei gofiant a gyhoeddodd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe.
Yn wir, 'lansiwyd ' y gyfrol Yr Archesgob Rowan Williams gan Wasg Pantycelyn yn syth wedi i'r Archesgob gymryd rhan yn oedfa bore Sul yr Eisteddfod.
Gwaith darllen Mae'r llyfr yn ffrwyth dwy flynedd a hanner o lafur - gyda llawer o'r amser wedi mynd i ddarllen y cyfan a sgrifennwyd gan Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn anerchiadau, yn draethodau diwinyddol ac yn gerddi.
"Fe gymerodd hi flwyddyn a hanner i ddarllen ei waith - dyw e ddim yn sgwennu'n rhwydd iawn - ac mae o wedi sgrifennu, mae'n debyg, rhyw bum i chwe miliwn o eiriau," meddai Cynwil Williams gan ychwanegu i rhyw gyfraniad newydd gael ei gyhoeddi bob tro y tybiai iddo orffen y gwaith darllen.
Yn Gymro Yngl欧n 芒'i fwriad wrth fynd ati i sgrifennu dywedodd:
"Yr hyn oedd gen i mewn golwg o'r dechrau oedd ei gyflwyno fel bachgen o blith ein cenedl ni. Mae o'n Gymro; yn Gymro cynnes iawn ac mae hynny yn dod allan yn amlwg iawn," meddai.
"Mae hefyd yn fachgen o'r gymuned leol yma ac rwy'n falch mai yma y mae'r llyfr yn cael ei lansio oherwydd yma yn Abertawe y treuliodd o'i fywyd cynnar - fe fu o yng Nghaerdydd wrth gwrs ond yma yn Abertawe y trodd o at yr Eglwys yng Nghymru ac yma y cafodd o ei dr枚edigaeth at y math o ffurf grefyddol sydd yn lliwio ei fywyd," meddai.
Rhoi'r byd yn ei le Cyfeiriodd hefyd at y syniad o 'gyfiawnder' sy'n elfen mor bwysig ym mywyd Rowan Williams.
"Ar 么l bod yn ddiwinydd dygn ac efallai yn teimlo'n rhwystredig iawn mae wedi troi yn ddiweddar at roi y byd yma yn ei le.
"Felly hefyd, y genedl, y gymuned ac os cai ddweud - cyfiawnder yn y byd yma; ym mhob problem mae e'n rhoi ei farn ac yn rhoi ei arweiniad.
Ei athrylith "Rydw i wedi dechrau [y llyfr] trwy s么n am ei dylwyth e yn y fro hon - un ochr o'r teulu yn Annibynwyr yr ochr arall yn Fethodistiaid a sut y bu iddo gael y dr枚edigaeth yma.
"Ac yna, yn yr ail ran, yr ydw i'n trafod ei athrylith ef - y ffordd mae e'n trafod syniadau Cristnogol, yn diwinydda, sut y mae o'n gweld bywyd a'r byd yma."
Dywedodd fod y ffaith fod Rowan Williams o'r un cyff 芒 William Williams Pantycelyn yn egluro rhywfaint ar ei athrylith iddo.
"Ac y mae'n egluro hefyd yr ysbrydoledd aruthrol yma sydd yn y dyn a'r gwyleidd-dra mawr yma a'r ddealltwriaeth eang yma sydd ganddo o fywyd yn ei gyfanswm. Ac er nad ydw i yn aros efo hwnna mae yna awgrym fod yr athrylith yma wedi dod lawr yn y wyth茂en fawr [deuluol]," meddai.
Maen i'r wal "Erbyn hyn, wedi gwneud cyrsiau gwych iawn mewn diwinyddiaeth mae Rowan Williams wedi dod i'r fan hon yn ei fywyd lle mae o'n rhoi y wleidyddiaeth hon sydd yn ei galon yn nhermau y ddiwinyddiaeth y mae wedi cael ei hyfforddi ynddi .
"Mae o'n parhau yn ddiwinydd o'r radd flaenaf ond y mae e'n mynd, os mynnwch chi, a'r ddiwinyddiaeth honno fel maen i'r wal ar hyn o bryd," meddai.
Un o Gwrt y Cadno, Sir Gaerfyrddin, yw Cynwil williams. Bu'n weinidog yng Nghaerfyrddin, Dinbych a Chaerdydd ac wedi ymddeol yr aeth ati i baratoi'r gyfrol hon.
Cyhoeddir Rowan Williams gan Wasg Pantycelyn. Pris 拢14.95. Mae'n cynnwys nifer o luniau.
|
|