成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Argyfwng bywyd Esgob
Cyn Archesgob Tyddewi yn s么n am brofiadau sy'n newid bywyd

Bu cyn Esgob Tyddewi yn s么n am gyfnod yn ei fywyd pan oedd yn ei chael yn "amhosib credu yn Nuw" ac yn amhosib gwedd茂o.

Yr oedd Carl Cooper yn s么n am ei brofiadau ysbrydol a phersonol ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul Medi 21, 2008.

Ymddeolodd Carl Cooper o'i swydd yn Esgob Tyddewi am resymau personol ddechrau 2008.



Amheuon ysbrydol
Gofynnodd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg iddo:
"Yng nghanol y profiadau yna a oedd yna amheuon ysbrydol yn codi o gwbl?"

"Rwy'n credu fod pob person yn mynd trwy fywyd ac yn cael cyfnodau lle mae cwestiynau, amheuon, lle mae credu yn Nuw yn dod yn fwy anodd na chyfnodau eraill.

"Yn sicr, wrth edrych yn 么l rwy'n gallu meddwl am sawl cyfnod yn fy mywyd i lle mae credu yn Nuw wedi bod yn amhosib.

"Rai blynyddoedd yn 么l fe wnaethom ni golli babi bach yn y teulu - babi y mab - ac yr oedd hwnnw yn gyfnod anodd tu hwnt yn ysbrydol i mi yn bersonol ac felly yn sicr mae dyn yn mynd trwy gyfnodau lle mae ffydd yn anodd," meddai.

Pob cyfnod
Ychwanegodd bod i bob cyfnod ym mywyd unigolyn ei gwestiynau a'i gyfleon gwahanol . "Dwi mewn swydd arall dwi'n gweithio mewn byd arall ac felly dwi wedi gofod ail greu fy mywyd Cristnogol ac mae hynny wedi bod yn her," meddai Mr Cooper sydd erbyn hyn yn gyfarwyddwr corff ym Mhowys sydd yn meithrin cydweithrediad rhwng mudiadau gwirfoddol a chyrff statudol.

Dywedodd bod ganddo "gydymdeimlad llwyr" a'r rhai hynny nad ydynt wedi medru ail greu eu bywyd wedi rhyw chweydro personol yn yr un modd ag y gwnaeth ef.

"Dydw i ddim yn eistedd fan yma fel rhywun sydd 芒'r atebion i gyd. Dynaa'i gyd fedra i ei ddweud ydi beth wnes i drio'i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw [sef] gadael i'r profiad ail siapio beth oeddwn i'n gredu am Dduw yn hytrach na thrio ffitio beth oeddwn i yn gredu am Dduw i fewn i'r sefyllfa.

"Es i trwy wythnosau ac wythnosau pan oeddwn i'n ei ffeindio hi yn llythrennol yn amhosib i wedd茂o achos yr oedd pob peth oedd yn sylfaen i fy mywyd ysbrydol i wedi mwy neu lai ddiflannu . Roeddwn i'n gorfod ffeindio 'footholds' gwahanol i ailadeiladu fy mherthynas i 芒 Duw," meddai.

Edrych ymlaen
Yn ei swydd newydd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys dywedodd ei fod yn dal i weithredu fel Cristion ond yn awr gyda chyfleoedd nad oedd ganddo pan yn arweinydd eglwysig.

"Yr hyn sy'n bwysig i mi r诺an yw peidio ag edrych yn 么l ac yn sicr fuasai hi ddim yn addas i mi fynegi barn na gwneud sylw am arweinwyr yn yr Eglwys ar hyn o bryd neu ar bethau y dylai arweinwyr yr Eglwys ei wneud neu beidio'i wneud .

"Rydw i'n ddiolchgar am y gorffennol , dwi'n byw yn y presennol a dwi'n cynllunio ar gyfer y dyfodol," meddai.

Yn wahanol
Holodd John Roberts a yw ei ffydd yn wahanol wedi'r pedwar, chwe mis diwethaf.

"Rydw i'n gobeithio bod fy ffydd i yn wahanol," meddai.

"Os nad ydi profiadau bywyd yn newid ffydd rhywun mae yna rywbeth o'i le yn does?

"Dydi Duw ddim yn newid ond mae'n perthynas ni 芒 Duw yn newid yn seiliedig ar yr hyn sy'n ein heffeithio ni fel pobl ac mae rhywun yn dysgu mwy am Dduw.

"Mae dyn yn dysgu mwy amdano'i hunan trwy fynd drwy wahanol brofiadau ac felly'n sicr dwi'n mawr obeithio bod fy nealltwriaeth i o Dduw, o fywyd, o waith ac o weinidogaeth wedi altro," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy