|
Mary Elizabeth Jones a Diwygiad 1904
Ganwyd Mary Elizabeth Powell yn Nhyddyn Du, Bont Ddu ar Fawrth 30 1868 yr ieuengaf o saith o blant i Morus ac Anne (Owen) Powell.
Yn 么l y cyfrifiad 1871 yr oedd yn byw yn Sarfaen, Talybont, yn dair oed, a bu yno nes priodi Richard Jones ar Dachwedd 16, 1887 yn 19 oed.
Ymgartrefodd y ddau yn Islawrffordd ac wedyn symud i'r Hafod.
Tra'n byw yn Islawrffordd ganwyd dau o blant, Robert, a anwyd Medi 1889 ac Annie a anwyd Ebrill 26 1893.
Fu farw Robert yn ifanc a bu farw ei g诺r yn 1909 yn 50 oed.
Priododd ei merch Annie yn 1916 ag Evan Davies o Drawsfynydd a ymsefydlon yn Tyddyn Simne Talybont.
Ganwyd iddynt fab Richard Ieuan ond bu yntau farw yn 10 mis oed - felly doedd gan Mary Jones ddim disgynyddion uniongyrchol.
Fe ddaeth Mary yn enwog iawn yn 1904 wedi iddi weld golau mawr llachar o gwmpas Capel Egryn a hynny a arweiniodd iddi deithio Cymru yn s么n am y profiad gan bregethu i gapeli llawn Gymru.
Pan ddaeth ei emosiwn dan reolaeth fe ddaeth gartref a chyda'r arian a gasglwyd adeiladodd Gapel Beulah.
Bu farw yn 1936, 28 mlynedd wedi marwolaeth a g诺r.
Cafodd angladd anferth gyda phobol o bob cwr o Gymru ac o dros y ffin ym mynwent Capel Horeb.
Cyfansoddwyd penillion am Mary gan ei nai, Evan Morris Powell, Milwaukee, U D A.
Yn fab i Hywel a Jane Powell roedd Evan a'i deulu wedi mudo o Feddgelert i'r America yn 1908.
Jane oedd chwaer hynaf Mary ac wedi priodi Hywel, ei chefnder cyntaf - y ddau dad yn ddau frawd sef Evan a Morus, meibion i Hywel ap Gruffydd 1771 - 1856.
Hywel oedd y mwyaf adnabyddus o bedwar brawd o'r Carneddi, Nanmor, a oedd yn feirdd sef Morus, Robert, Richard a Hywel.
Casglodd Carneddog, 诺yr i Robert, lawer o farddoniaeth y teulu a'i gyhoeddi yn ei gyfrol, >Cerddi Eryri.
糯yr i Hywel oedd William Powell, Gwilym Eryri o Milwaukee, a oedd yn enwog o gwmpas Gogledd America fel arweinydd Eisteddfodau ac ymsefydlu, ymfudwyr o Gymru yn y Dakota's yn yr 18
80.
Mae'n amlwg i Evan, yntau, gael yr blas ar farddoni fel ei gyndadau. Dyma ei benillion i Mari'r Golau:
Mary Jones
A Mary! Fy modryb anwylaf oedd hon
Fil miloedd o weithiau ym gwnaeth yn llon
Pan glywais ei chludo i fynwent y plwy
Trywanwyd fy nghalon nes hollti yn ddwy
Y fenyw osgeiddig, a'r wyneb mor hardd
Yng nghwmni ei phriod a rodia'r drwy'r ardd
Roedd meysydd a dolydd fel nef iddi hi
A'i geiriau mwyn grasol oedd felys i ni.
Mae'r atgof amdanot fy Mary fwyn lon
Yn llosgi fel gwreichion eiriasboeth o'r t芒n
Nis gallaf ddarlunio fy ngofid a'm loes
Mor anodd dygymod 芒 thrymder y groes.
Cysegraist dy fywyd i rodio drwy'r wlad
Yng ngwres y diwygiad i ddweud am y Tad
A gardd mor helaeth nes rhoddi mor fawr
Ei unig Anedig i deulu y llawr.
O! Mary fe'th daniwyd a phur Ysbryd Duw
Dy lusern oedd lachar tra buost ti byw
Meddianaist yn helaeth o Ysbryd y Groes
A mawr dy amynedd yn nyfnder pob loes.
Hen fyd y treialon fu'r byd hwn i ti,
Cest brofedigaethau a thristwch yn lli;
Fe gollais dy fachgen, a chollaist dy 诺r
Ond cefaist yn gysgod 'Gardenid y t诺r'.
Dy ffydd oedd yn gadarn, Dy gariad oedd fawr
A chryf oedd dy obaith am wlad uwch y llawr
Dy g芒n oedd bereiddiol hyfrydol ei sain
I Fugail y Defaid goronwyd 芒 drain,
Yng ngwlad y Gorllewin ym mhell dros y lli
Atgofion amdanat sy'n felys i mi.
'Rwy'n dy weld Yr Hen Feri yn cerdded dros ddol
Yng nghanol y blodau, ac oen yn dy gol.
Y llygaid byw siriol a'r w锚n ar ei phryd
Wrth ganmol ei Cheidwad tra rhodiai drwy'r byd,
Gorfoledd fel afon risialaidd a llon
Fyrlymai byth beunydd o ddyfnder ei bron.
Siaradai ei bywyd o'r crud hyd y bedd
Fod gras yn ei chalon yn nerth ac yn hedd.
Aeth adref dan ganu i fynwes ei Duw
Er marw ein Mary; mae eto yn fyw.
Yn y llythyr diweddar a ges gan fy ffrind,
Hysbysai mai i'r nefoedd yr oedd hi yn mynd.
Nid oedd unlle arall yn gymwys i Mair
Cans rhodiodd yn union wrth reol y Gair. Evan Morris Powell, Milwaukee. Trwy law, Jean Powell Jones, Sarnfaen, a Heulwen Jones, Hen Golwyn.
|
|