Logo newydd Undeb Bedyddwyr Cymru Adeiladu ar gyfer y dyfodol
Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru logo newydd. Mae'n darlunio ciwb gyda'r llythrennau UB a BU (Undeb y Bedyddwyr a Baptist Union of Wales) ar ddau wyneb iddo a map o Gymru gydag arwydd y groes ar wyneb arall.
Uwchben ac oddi tan y ciwb mae enw'r Undeb yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae'n rhoi i'r Undeb ddelwedd newydd.
Ar y rhaglen radio Bwrw Golwg o gyfarfod blynyddol yr Undeb yn Aberteifi Gorffennaf 17 - 19, 2006, eglurwyd ei arwyddoc芒d gan Peter M Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.
"Mae'r ciwb sydd yn cynrychioli'r ddelwedd newydd yn s么n rhywbeth am yr hyn ydym ni'n ceisio'i wneud fel cenhadaeth," meddai.
"Pe byddech chi'n agor y ciwb i fyny yr ydych chi'n gweld croes ac yng nghanol ein cenhadaeth mae yna groes ac mae Croes Crist a'r syniad y mae'r groes honno yn ei gyfleu yn gwbl ganolog," meddai.
"Wedi dweud hynny, mae'r syniad o giwb fel blocyn i adeiladu hefyd yn cael ei gyflwyno a'r ffaith ein bod ni bellach yn dechrau adeiladu, gosod sylfeini , er mwyn sicrhau fod y genhadaeth yr ydym yngl欧n 芒 hi yn llwyddo."