成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Ffion yn darllen y Magnifficat Y Magnifficat
Gwasanaeth Nadolig 成人快手 Radio Cymru 2006
Y Magnifficat - cyflwyniad gan y gweinidog
  • I'r ddalen flaenorol

    Y Magnifficat - nid c芒n neis-neis!
    Sylwadau y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor

    Yn dilyn darlleniad o emyn mawl Mair a adnabyddir fel Y Magnifficat traddodwyd y sylwadau hyn gan y gweinidog:


    neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:


    Nid c芒n neis-neis yw [Y Magnifficat] sy'n s么n pa mor hyfryd yw hi i fod yn fam i blentyn diniwed.

    Nid mynegi gobaith y bydd y plentyn yn tyfu i fod yn hapus a gwneud yn dda iddo'i hunan a wna Mair.

    Na, datganiad chwyldroadol ydyw a phwysleisia'r Dr Vivian Jones yn ei lyfr pwysig Y Nadolig Cyntaf fod yr emyn hwn fel datganiad tebyg i un o ganeuon protest Joan Baez.

    Offerynnau yn llaw Duw
    Mae Mair yn mynegi ei chydnabyddiaeth y dylem dderbyn taw offerynnau ydym ni i'w defnyddio gan Awdur Bywyd i gyflawni ei bwrpas ef. Dyma'r agwedd at fywyd sydd bron wedi diflannu o'n plith wrth inni fynd i gredu taw pwrpas bywyd yw i ni wneud y gorau i'n hunain.

    Mae ystyr llawer mwy i'n bodolaeth na hynny! O ddarllen y Magnifficatar ar ei ben ei hun mae'n swnio'n debyg i ddarn o waith y proffwydi gyda'i s么n am dynnu tywysogion oddi ar eu gorseddau a dyrchafu'r distadl.

    Ac wrth gwrs, yr oedd Mair, fel Iddewes dda, yn gyfarwydd iawn 芒 gwaith y proffwydi ac y mae'n eu hefelychu.

    Genedigaeth wyrthiol arall
    Nid y proffwydi yn unig fu'n ddylanwad arni. Un a ganodd emyn o fawl i Dduw oherwydd iddi gael gwybod ei bod yn mynd i esgor ar blentyn a fyddai'n newid hanes ei genedl oedd Hanna, mam Samuel.

    Yr oedd yr enedigaeth hon yn un wyrthiol hefyd, oherwydd yr oedd Hanna yn methu a chael plant ac wedi rhoi genedigaeth canodd Hanna g芒n sy'n cyfleu llawer o'r hyn sy'n cael ei adleisio yn y Magnifficat:

    "Y mae'n codi'r gwan o'r llwch ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen ... canys nid trwy rym y mae trechu" meddai.

    Mae'r hanes hwn wedi dylanwadu ar y traddodiad anysgruthurol sy'n honni taw Hanna - Anna neu Ann yw'r ffurfiau diweddarach ar yr enw - yw enw mam Mair. Y gwir yw nad oes gennym syniad am ei henw.

    Cerdd yw'r Magnifficat sy'n pwysleisio'r gwirionedd sylfaenol a berthyn i'r Nadolig: mae'r Meseia yn mynd i gael ei eni gyda'r bwriad o newid y ddynoliaeth a'r byd. Mewn gair, i achub y byd.

    Dyna pam y defnyddir geiriau fel Ceidwad a Gwaredwr i'w ddisgrifio, ac fe glywn y rhain yn aml yn yr oedfa hon. Ni ellir mo'u hosgoi hyd yn oed pe dymunem hynny.

    Geiriau sy'n cario syniadau pwerus ydynt, yn hanu o iaith wleidyddol y cyfnod hwnnw.

    Mwy nag unrhyw dywysog
    Cesar oedd yr un oedd yn cael ei gyfarch 芒'r teitlau hyn fel arfer ond dywed Mair ei bod yn mynd i esgor ar un sy'n fwy nag unrhyw dywysog, mwy na Chesar hyd yn oed.

    Dibynna awdurdod a grym Cesar ar y bygythiad o drais sy'n peri ofn ac arswyd ar y bobol yn gyffredinol; ond dibynna awdurdod a grym y Gwaredwr ar gariad a thrugaredd sydd yn ennyn ymateb gorfoleddus mewn pobol.

    Gorfoda ffordd Cesar o feddwl, a'i weision gwasaidd megis Herod, y bobol i blygu a derbyn trefn faterol ac anhrugarog y byd - grym yr economi a grym milwrol.

    Ond y mae ffordd Gwaredwr y byd yn ein harwain i blygu gerbron awdur yr hollfyd ac yn ein dwyn i berthynas 芒'r Meddwl - y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, a'r Gallu sydd yn hanfod i'r cyfan.

    Ffordd trugaredd, gair sy'n cael ei ddefnyddio droeon yn y Magnifficat, yw'r ffordd hon; y ffordd a ddangoswyd gan Iesu.

    Geiriau'r proffwydi
    [Yn y gwasanaeth darllenwyd darnau o weithiau'r proffwydi yn rhagweld diad y Meseia.

    "Daw'r darnau o lyfr y proffwyd Eseia ac fe'u datganwyd am y tro cyntaf yng nghanol cyfnod anodd iawn yn hanes y genedl Iddewig.

    Yr oedd wedi ei choncro a'i gormesu gan un o superpowers yr oes, Babilonia, a rhagweld gwaredigaeth o'r cyflwr enbyd a wna Eseia; oherwydd cariad Duw at ddyn ni all adael i bobl ddioddef heb ymyrryd drwy ysbrydoli rhai i gymryd at yr awenau i'w harwain i ryddid a heddwch.

    Un a wnai hynny oedd y Meseia - y Gwaredwr."]
  • Cliciwch
  • i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.

  • I'r ddalen nesaf

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy