成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Cymanfaoedd canu - pethau ddoe?
Gweinidog yn beio selebs a dylanwadau tramor
A yw dyddiau'r Gymanfa Ganu draddodiadol Gymreig ar ben?
Dyna bryder y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor o Landysul.
Yn sgrifennu yn rhifyn Mehefin 1, 2006, o'r Tyst dywed:
Y Tyst "Yn anffodus, mae'r Gymanfa yn colli ei thir yn glou iawn; mae ansicrwydd mawr yngl欧n a'i dyfodol."

Trychineb, meddai, fyddai ei diflaniad.

Mae cynnig sawl rheswm am ddiffyg diddordeb pobl yn y math hwn o addoiliad a oedd mor hynod o boblogaidd ar un adeg.

  • Y lleiad cyson yn nifer cynulleidfaoedd o Sui i Sui "gyda mwy a mwy o ganu unsain neu hyd yn oed gyd-ddarllen emynau yn digwydd," meddai.

  • Tuedd ymhlith y Cymry i ddirmygu traddodiadau cynhenid eu hunain.
    "Ffrwyth canrifoedd o drwytho sydd wedi ein hargyhoeddi nad oes unrhyw werth i'n hetifeddiaeth sy'n gyfrifol am hyn," meddai.

    Unigryw i Gymru
    "Dathliad unigryw i ni fel cenedl yw'r Gymanfa Ganu sydd wedi bod o gymorth i ddiwyllio a chyfoethogi addoliad cenedlaethau lawer yn ein heglwysi.

    "Er hynny mae llu o'n haelodau ffyddlon yn ei hystyried fel rhywbeth 'hen ffasiwn' nad yw'n werth ffwdanu yn ei chylch," meddai.

  • "Dirmyg" at draddodiadau gwerinol gan yr hyn a eilw yn "garfan dosbarth canol proffesiynol a'r opiniwn formers".

    Meddai: "Ysywaeth, bydd eu barn hwy yn effeithio ar farn y werin eu hunain, oherwydd plant ac wyrion y werin ydynt. Llawer gwell gan y dosbarth hwn ddiwylliant y selebs a chyngherddau mawreddog."

    Dywed mai digwyddiad gwerinol, democrataidd, yw'r Gymanfa Ganu yn ei hanfod gyda chroeso i bawb gymryd rhan.

    "Nid oes selebs ac artistes yn cymryd rhan . . .

    "Cwpaned o de, brechdanau a phice ar y maen fydd yn dilyn, ac nid cheese and wine party," meddai gan ychwanegu nad yw'r gymanfa yn cynnig cyfle ychwaith "i hobnobio gyda'r hunanbwysig na'r crach."

    Digwyddiad gwerinol
    Yn wahanol i'r hyn a ddigwydd mewn theatr a neuadd gyngerdd pwysleisia mai digwyddiad cymunedol, gwerinol, yw'r Gymanfa. "Mynegiant o hen ddiwylliant crefyddol y bobl gyffredin."

    Mae'n ei gymharu 芒 diwylliant y duon yn y Carib卯 neu ddeheudir yr Unol Daleithiau.

    "Peidiwch a beiddio a dweud wrthynt hwy bod eu traddodiad yn hen ffasiwn a dylid cael ei wared. Mae'n dal yn gyfrwng llawenydd a gobaith, sydd yn help aruthrol i ddiwyllio'r ifainc ac yn sylfaen i bob math o gerddoriaeth boblogaidd,"

    'Boddfa o emosiwn'
    Wrth ymhelaethu am ei bryderon ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul Mehefin 4 dywedodd nad yw'r ffaith y gall cymanfa weithiau yn droi yn "foddfa o emosiwn" yn hytrach nac yn addoliad yn rheswm dros ladd yr arferiad.

    "Wel, gall unrhyw oedfa droi yn foddfa emosiynol a gall unrhyw oedfa fod yn anwybyddu'r efengyl. Gall unrhyw draddodiad droi yn rhywbeth tebyg i hynny.

    "Mae'r Nadolig wedi mynd i'r cyfeiriad hwnnw mewn sawl man, mae'r Pasg mewn mannau eraill ond dyw'r ffaith fod yna wendidau yn perthyn i'n traddodiad ni ddim yn golygu y dylem ni roi heibio ein traddodiad ond i'w newid nhw," meddai.

    Bychanu traddodiad
    "Yr ydym yn bychanu'n traddodiad ein hunain fel Cymry ac mae hynny yn rhywbeth sy'n peri loes calon i mi yn bersonol oherwydd yr ydych yn ei weld ym mhob cyfeiriad nid jyst yn y Gymanfa Ganu.

    "Mae ein traddodiadau cynhennid Gymreig ni yn cael eu hesgeuluso oherwydd y trwytho sydd wedi bod arnom ni ar hyd y canrifoedd i wneud inni feddwl fod ein traddodiadau yn israddol i draddodiadau eraill yn enwedig felly rhai Eingl Americanaidd ac mai eu bwrw nhw heibio yw'r peth gorau inni wneud. Fel'na mae pobl yn meddwl," meddai.

  • Beth yw eich barn chi am Gymanfaoedd Canu?
  • Pa bryd fuo chi mewn Cymanfa ddiwethaf?
  • Adloniant ynteu addoliad ydi Cymanfa Ganu?
  • Ebostiwch

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy