成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Carwyn Jones a Jane Davidson yn cyfarfod bugeiliaid o Gujarat Carwyn Jones a'r bugeiliaid
Jeff Williams yn sgrifennu o Copenhagen
Nos Lun Rhagfyr 14
Heddiw cyfarfu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, 芒 dirprwyaeth o Gymorth Cristnogol.

Cyflwynodd dau fugail o Gujarat yn yr India, gopi o'u hadroddiad Climate Crisis i'r Prif Weinidog.

Eglurodd Lalji Bhai, sy'n gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, MAGAR, yn ne India sut mae newidiadau eithafol ym mhatrwm y tywydd wedi effeithio ar ei fywoliaeth.

"Roedd gan fy nheulu gant o wartheg. Erbyn hyn, does ganddom ni ddim un; maen nhw i gyd wedi marw, a gorfu inni ffoi i'r ddinas", meddai.

Ac meddai Carwyn Jones, wrth dderbyn yr adroddiad gan y bugeiliaid, "Yn amlwg, mae newid hinsawdd yn broblem amgylcheddol a dyngarol. Byddai peidio dod i gytundeb teg a chynhwysfawr yn Copenhagen yn fethiant gwleidyddol."

Roedd y ddirprwyaeth hefyd yn cynnwys Jonathan Abbatt, Iestyn Davies, y Parchedig Andrew Sully a John Shrouder oedd wedi beicio i Gopenhagen fel rhan o ymgyrch Cymorth Cristnogol dros gyfiawnder hinsawdd a Branwen Niclas a minnau sydd yma ers wythnos.

Wrth gwrs roeddem ni'n hynod o falch i'r Prif Weinidog gyfarfod 芒 dirprwyaeth o Gymorth Cristnogol ar ei ddiwrnod cyntaf yma yn Copenhagen gan ein bod ni yma i bwyso ar arweinyddion y gwledydd i gyrraedd cytundeb teg, uchelgeisiol erbyn diwedd yr wythnos, ac un cynhwysol fydd yn torri allyriadau carbon y byd wrth 80% erbyn 2020.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy