成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Logo Cymorth Cristnogol yng Nghymru Deiseb - ac araith Desmond Tutu
Jeff Williams, Cymorth Cristnogol, yn sgrifennu o Copenhagen


Bore Llun, Rhagfyr 14
'Countdown to Co2penhagen - Cyfrif yn ol i Cop2penhagen'
Dyna slogan a delwedd a gr毛wyd gan griw o staff Cymorth Cristnogol yn seler ein swyddfa yn Llundain ac erbyn yr Uwchgynhadledd mae'r delweddau a'r sloganau ar faneri, crysau T a bathodynnau yng Nghanolfan Bella ac yn ddelweddau sy'n cael eu taflunio dros eglwysi ac adeiladau'r ddinas.

Ddoe, dydd Sul, roedd llwyfan mawr ar sgw芒r y ddinas 芒 baneri anferth Countdown to Copenhagen yn llenwi'r lle.

"Anhygoel yw gweld hyn i gyd," meddai un o'n swyddogion ymgyrchu heddiw. "Mae'n benllanw ymgyrch fawr ac i feddwl bod y cwbwl wedi deillio o un o'n 'stormydd syniadau' mewn seler yn Waterloo!"

Deiseb Desmond Tutu
A heddiw roedd yr Archesgob Desmond Tutu yn cyflwyno deiseb Cyfrif yn 么l i Co2penhagen, ac arni 512,894 o enwau, i Yuvi de Boer o'r Cenhedloedd Unedig.

Desmond Tutu yn annerch y dyrfa yn y sgwar A thestun balchder personol i mi yw bod miloedd o'r llofnodion hyn o Gymru - drwy'n capeli, ein cymunedau, sioeau haf a'r Eisteddfodau Cenedlaethol.

Cariodd John Shrouder, un o'r beiciwyr o Gymru, ddeiseb 500 io enwau o ysgol Crughywel yr holl ffordd ar ei sach gefn ar ei feic i'w cyflwyno yma heddiw.

Arestio cannoedd
Roedd nifer fawr o heddlu arfog yn bresennol o gwmpas y sgw芒r. Nos Sadwrn ar y teledu gwelais bod cannoedd wedi eu harestio yma y diwrnod hwnnw. Pasiwyd deddf yn senedd Denmarc rai wythnosau 'n么l i ymestyn pwerau'r heddlu er mwyn caniat谩u iddynt arestio pobl "ar amheuaeth" o greu trafferth.

Mae'n debyg i nifer gael eu harestio cyn yr orymdaith fawr ac mae'n resyn bod lleiafrif o bobl eithafol yn cipio penawdau'r newyddion, ar draul degau o filoedd o ymgyrchwyr sydd wedi gwneud yr ymdrech i deithio o bedwar ban byd i Copenhagen er mwyn lleisio eu barn yn heddychlon ar y strydoedd.

Araith Tutu
Mae Tutu yn un o fy arwyr i ac mewn araith rymus ac ysbrydoledig anogodd arweinwyr y byd i wrando, ac i bobl y byd barhau i ymgyrchu.

Atgoffodd ni bod anghyfiawnderau mawr wedi eu concro pan fo pobl o ffydd wedi ymgyrchu a sefyll yn gadarn.

Dywedodd bobl "Na" ac fe syrthiodd mur Berlin; dywedodd bobl "Na" ac fe chwalodd apartheid meddai gan ei hannog i fod yr un mor gadarn i wrthwynebu'r anghyfiawnderau sydd wrth wraidd dioddefaint yn sgil newid hinsawdd.

"Rydym yn perthyn i un teulu," meddai wrth annerch llond sgw芒r o ymgyrchwyr.

"Rydym yn chwiorydd a brodyr i'n gilydd, aelodau un teulu, teulu dyn, teulu Duw. Rydyn ni'n perthyn i'n gilydd ... gadewch inni rodio gyda'n gilydd a gweithio gyda'n gilydd i greu byd gwell i bawb.

Mae'r byd yn ddigon mawr i bob un ohonom; dy' ni ddim angen rhagor o newyn, dim rhagor o dlodi, dim rhagor o ryfela.

"Rydym ni angen byd o heddwch, byd o chwerthin, byd o lawenydd, byd o ofalu am ein gilydd. Byd o . . ." - a dyma pryd y dawnsiodd Archesgob Tutu'n llawen oddi ar y llwyfan!


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy