|
Bore Sul, Rhagfyr 13
Bu ddoe yn gyfle i'r bobl godi eu llais. Ac fe wnaethon nhw hynny yn y modd mwyaf effeithiol a dramatig.
Gorymdeithiodd tua 100,000 o bobl o bob oed, o bob cyfandir ar hyd strydoedd Copenhagen gan weiddi'n groch am gyfiawnder hinsawdd.
Roedd eirth, angylion a dynion eira yn cerdded ochr yn ochr 芒 chynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol, asiantaethau gwyrdd, anarchwyr a phob math o grefyddau gwahanol.
Wrth gwrs un o uchafbwyntiau'r dydd oedd gweld ein cyd ymgyrchwyr o Gymru gyda chefnogwyr Cymorth Cristnogol yn cynnwys rhai fel Olwen o Lanfairpwll, David o Dreffynnon ac Andy o Dregarth oedd wedi cyrraedd ar fws am 0230 y bore.
Neges Rowan Williams Cafwyd araith gan Rowan Williams, Archesgob Caergaint yn dymuno'n dda i'r orymdaith y prynhawn.
"Rhoddwn gyfle i'r arweinyddion yn y dyddiau nesaf iddynt wneud beth rydyn ni angen iddyn nhw ei wneud," meddai.
"Nid yn unig i ni, nid yn unig i'n plant a'n wyrion, ond er mwyn y byd a roddwyd i'n dwylo, i'w drysori, i ofalu amdano ac i'w rannu," meddai.
"Rydyn ni'n dystion i un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf ein bywydau", ychwanegodd.
Bwrlwm y beicwyr Roedd bwrlwm mawr yn sgw芒r yr eglwys gadeiriol wrth aros am y criw o feiciwyr sydd wedi treulio pedwar diwrnod yn beicio yma. Cafodd y criw eu noddi, a maent eisoes wedi codi tua 拢50,000 fydd yn mynd tuag at liniaru rhai o effeithiau newid hinsawdd yn y gwledydd tlotaf.
Roedd John, Andrew, Jonathan a Iestyn o Gymru ymysg y beiciwyr a gyrhaeddodd oerfel y ddinas am hanner dydd, a braf bod yno i'w llongyfarch ar eu camp.
'Hollol wych' Roedd Iestyn wrth ei fodd yn cyrraedd, "Mae'n deimlad hollol wych," meddai "ond mae'r daith wedi bod mor bwysig a'r cyrraedd.
"Mae'n bwysig bod unigolion yn codi eu lleisiau, yn mynnu bod rhyw newid yn dod o'r gyfundrefn sydd ganddon ni ar hyn o bryd. Mae'n rhaid inni newid, mae na broses i'w newid hefyd, a dwi'n si诺r bod y gallu ganddo ni i lwyddo.
"Mae pobl adre wedi'n dilyn ein hanes ni ar wefannau, ar y cyfryngau felly rwy'n gobeithio bod y mater wedi codi lan yr agenda yng Nghymru, bod pobl yn siarad am newid hinsawdd yn y capeli, eglwysi, ysgolion, dros y bwrdd cinio.
" Mae'n beth pwysig i fod ar ein agenda ni fel cenedl. Rydyn ni'n genedl fach, ond mae modd inni wneud rhywbeth syfrdanol os ydym ni eisiau."
.
|
|