成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
John a Iestyn y tu allan i'r Senedd  gyda Rhodri Glyn Thomas a Darren Miller Disgwyl y Marchogion
Jeff Williams yn sgrifennu o ddinas y ceffylau haearn

Bore Gwener, Rhagfyr 11

Beic - y ceffyl haearn
Ac mae mwy o berygl cael eich taro'i lawr gan feic na dim byd arall yma yn Copenhagen!

Mae'r 'ceffylau haearn' yn hynod boblogaidd yma phawb sydd rhwng 10 ac 84 oed yn seiclo ar gyfartaledd dair cilomedr bob dydd ar hyd strydoedd y ddinas.

Mae adrannau llydain arbennig wedi eu neilltuo ar gyfer beics ar y metro a'r trenau lleol. Mae trigolion Copnehagen yn teithio 660,000 cilomedr y dydd ar y Metro, ond bron i ddwywaith hynny - 1.2 miliwn cilomedr ar gefn feic.

Pedwar Cymro
Ac ar eu ceffylau haearn hwythau mae pedwar Cymro ar hyn o bryd ar eu ffordd o Gymru i brifddinas Denmarc.

Mae Iestyn Davies o Gasnewydd, John Shrouder o Langynidr, Andrew Sully o Langollen a Joanthan Abbot o'r Waun yn gefnogwyr brwd i Gymorth Cristnogol ac wedi ymgymryd 芒'r her er mwyn codi arian at y mudiad a hefyd, wrth gwrs, i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cytundeb teg ar derfyn COP15.

I'r Senedd
Bythefnos yn 么l, cafodd dau o'r beicwyr gefnogaeth aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol gyda Iestyn a John yn beicio o swyddfa Cymorth Cristnogol yn Radur i'r Senedd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Darren Miller AC Ceidwadwyr a Rhodri Glyn Thomas AC Plaid Cymru.

Wedi cyrraedd cafodd John gyfarfod gyda'i AC lleol, Kirsty Williams, arweinydd y Rhyddfrydwyr.

Mae'n rhaid bod yr aelodau Llafur yn rhy brysur gydag ethol arweinydd ar y pryd! Ond chwarae teg, mae Jane Davidson wedi cytuno cyfarfod y pedwar pan ddaw hi i Gopnehagen dros y penwythnos.

Mae Iestyn, John, Jonathan ac Andrew ar eu ffordd yma drwy'r gwynt a'r glaw. Dymuniadau gorau iddyn nhw weddill eu taith ac edrychaf ymlaen at fod yn un o'r dorf fydd yn eu croesawu ger Cadeirlan Copenhagen am hanner dydd yfory, dydd Sadwrn.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy