成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Gwylio arth yn dadmer!
Goleuo coeden ar gefn beic a gwylio arth yn dadmer!

Bore Mercher, Rhagfyr 9
Mae trafnidiaeth gyhoeddus Copnehagen am ddim i bawb sy'n mynychu'r gynhadledd.

Mae'r rhwydwaith Metro a threnau yn gyson a threfnus. Mae bws wennol hefyd yn teithio yn 么l ac ymlaen o Ganolfan Bella a neithiwr penderfynwyd mynd i ganol y ddinas i weld beth oedd yno.

Wedi buddsoddi
Mae llywodraeth Denmarc a Chyngor Copnehagen wedi buddsoddi llawer yn y gynhadledd - i godi proffeil y brifddinas a'r wlad, a hefyd i frolio gwahanol agweddau o'i gwyrddni.

Yn wir, mae beics ymhobman ac yn un o'i chylchgronau hysbysebu gwelais bod trigolion Copnehagen ar gyfataledd yn beicio dros tair milltir y dydd, a bod un o bob tri o'i phoblogaeth yn beicio i'w gwaith neu eu hysgolion.

Goleuo'r goeden ar gefn beic Felly 'roedd hi yn sgw芒r y ddinas hefyd. Arddangosfa enfawr gan gyngor y ddinas o'r enw Hopenhagen a'r cwmn茂au mawrion wedi ymuno yn y ffair hefyd.

Siemens, er enghraifft yn noddi un o'r coed Nadolig prydferth sy'n cael ei goleuo gan bobl yn beicio yn eu hunfan o amgylch ei boncyff.

Yr arth rew
Roedd cerflun i芒 mawr o arth wen ynghanol sgw芒r arall a'r hyn oedd yn rhyfeddol am yr arth wen hon oedd ei bod yn graddol doddi i ddatgelu sgerbwd deinasor.

Noddwyd hwn gan Panasonic a'r WWF.

Effeithiol ond iasol. Iasol hefyd yw gweld enwau cwmn茂au mawr rhyngwladol yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd newid hinsawdd. Diddorol fyddai mesur eu cyfraniad hwy dros y blynyddoedd i gynhesu byd-eang!

"Mae'r trafodaethau hyn wedi dechrau yn llawer rhy araf," meddai un o gynrychiolwyr Togo wrthai ar y ffordd adref neithiwr. "Mae'n rhaid iddyn nhw gyflymu," ychwangeodd.

Cawn wedl pa ddatblygiadau sydd o'n blaenau heddiw.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy