|
|
|
Mae Jeff Williams ymhlith y miloedd sydd wedi cyrraedd Copenhagen |
|
|
|
Ymhlith 17,000 o gynrychiolwyr a 5,000 o newyddiadurwyr!
Diwrnod gwlyb, llwyd a gwyntog oedd diwrnod agoriadol y trafodaethau yma. Ond roedd cynnwrf lliwgar dros y brifddinas wrth i bob math o bobl baratoi at bythefnos o brysurdeb.
Dywedir fod 17,000 o gynrychiolwyr gwahanol fudiadau yma a 5,000 o newyddiadurwyr.
Mae'r gwestai wedi llenwi yma ers dros flwyddyn ac rydym ni'n ffodus iawn o fod wedi cael lletygarwch caredig gan gyfaill a fu'n byw ym Mangor am gyfnod, ond sydd nawr yn byw mewn fflat ynghanol y ddinas. Ar eu mwyaf croch
Mae gan Gymorth Cristnogol ddau stondin mawr yma - un yng Nghanolfan Bella, y brif neuadd gynadledda anferth, a'r llall yn y Klima Forum, sef cynhadledd amgen sydd wedi ei threfnu gan fudiadau gwirfoddol a grwpiau pwyso.
Yma bydd nifer o weithdai a chyfarfodydd ymylol yn digwydd ac yma y bydd lleisiau nifer o'r rhai sy'n byw dan effeithiau newid hinsawdd yn cael eu clywed ar eu mwyaf croch.
Mae gan Gymorth Cristnogol bartneriaid yma o wledydd fel Kenya, Brasil ac India, yn barod i siarad gyda'r wasg, lobio negydwyr ac i geisio dylanwadu ar y gwneuthurwyr penderfyniadau.
Yr uchelgais
Ers cyrraedd yma, bu arbenigwyr polisi Cymorth Cristnogol yn cyfarfod eu cydweithwyr Ewropeaidd, er mwyn cynllunio strategaeth lobio manwl.
Mae'r t卯m ymgyrchu a gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn trefnu digwyddiadau i ddosbarthu gwybodaeth a denu cyhoeddusrwydd.
Y prif nod o ran Cymorth Cristnogol fydd cael cytundeb teg, uchelgeisiol a chytundeb fydd yn ymrwymo llywodraethau i dorri ar allyriadau carbon. A hynny'n ymrwymiad cyfreithiol.
Ein huchelgais yw 40% o ostyngiad ar allyriadau domestig erbyn 2020 a chredwn hefyd bod angen cymorth rhyngwladol i helpu'r gwledydd tlawd i addasu yn sgil effeithiau newid hinsawdd.
Felly rydyn ni'n galw am addewid pellach gan arweinyddion rhyngwladol i roi cymorth ariannol tymor hir i'r gwledydd tlotaf er mwyn eu galluogi i ddatblygu'n gynaliadwy.
Dylai hyn fod yn o leiaf $150 biliwn y flwyddyn erbyn 2020.
|
|
|
|
|
|
|
|
|