成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Draig Las Prostest y Don yn Llundain Ymchwydd y don
Jeff Williams yn ymuno 芒 Phrotest y Don yn Llundain
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 5 2009 - Protest y Don, Llundain
Mae'r daith i Copenhagen wedi dechrau o ddifrif heddiw wrth i mi ymuno 芒 rhyw 40,000 o bobl ar strydoedd Llundain i alw ar Lywodraeth San Steffan i gymryd camau i atal anhrefn hinsawdd.

Roedd pawb yn gwisgo glas fel symbol o afon yn llawn o dd诺r croyw gl芒n neu efallai y tonnau dinistriol a ddaw yn sgil newid hinsawdd.

Roedd rhai hyd yn oed wedi paentio eu wynebau a lliwio eu gwalltiau yn las!

Jeff Williams ymhlith y gorymdeithwyr yn Llundain Daeth nifer dda o Gymry i Brotest y Don i helpu ffurfio cadwyn o bobl o gwmpas y Senedd.

'Roedd y gadwyn o leiaf ddwy filltir o hyd rwy'n si诺r ac ymhlith y Cymry roedd Dai y Ddraig Las - a lwyddodd i dynnu sylw'r holl dorfeydd drwy strydoedd Llundain. Bydd Dai hefyd yn teithio i Copenhagen ac rwy'n gobeithio bod yno i'w groesawu.

Pwrpas y digwyddiad heddiw oedd galw ar Brif Weindog y Deyrnas Unedig i gario neges gref i'r Uwchgynhadledd yn Copenhagen: cytundeb i ymrwymo gwledydd y byd i dorri allyriannau carbon a chynorthwyo gwledydd llai datblygedig i addasu i newid hinsawdd a datblygu mewn modd cynaliadwy.

Un targed ry'n ni'n galw amdano yw torri 80% o allyriannau carbon y byd erbyn 2050.

Fe'm sobrwyd i wrth weld cwestiwn ar grys T un o wirfoddolwyr ifanc Cymorth Cristnogol yn yr orymdaith y prynhawn yma:

"Pa mor hen fyddi di yn 2050?"

Roedd hyn yn f'atgoffa bod yr ymgyrch hon ar gyfer heddiw a'r cenedlaethau sydd i ddod.

Wel, rwyf wedi blino nawr ac mae cam nesaf y daith ar yr Eurostar yn dechrau'n blygeiniol fory.
Felly nos da!


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy