成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Herod Herod Frenin
Herod - beth sydd ganddo'i ddweud?
Oedfa Dydd Nadolig 2007 ar 成人快手 Radio Cymru.

Herod y Brenin - yn rhoi ei ochr ef o'r stori.
Ar fore dydd Nadolig mi hoffwn i gyflwyno fy hun i chi - y fi ydi Herod Frenin neu Herod Fawr.

Y fi oedd y brenin yn hanes y Nadolig cyntaf.

A pham ydw i, o bawb, yn eich cyfarch chi'r bore yma?
Wel, fi oedd yr unig un o gymeriadau'r Nadolig cyntaf na chafodd weld y baban Iesu. Mi gafodd pob un arall o gymeriadau'r Nadolig weld y babi bach - Mair a Joseff wrth gwrs, y bugeiliaid yna ar fryniau Bethlehem, yr angel Gabriel, y doethion a hyd yn oed yr anifeiliaid yn y beudy.

Ond y fi - na ches i mo'i weld o. A chofiwch pwy oeddwn i - y brenin, y brenin oedd yn llywodraethu ar Jwdea, Samaria a Galilea.

Doeddwn i ddim yn Iddew o waed cyflawn, sut fuasech chi yn ei ddeud o? Wel hanner Iddew a hanner Edomiad oeddwn i ond dawn ni ddim i fanylu ar hynny y bore yma.

Lladd y plant
Cyn mynd ati i bwyso a mesur pam na ches i mo'i weld o, mi ydw i isio rhoi fy nghardia ar y bwrdd a bod yn hollol onest efo chi i ddechra. Tybed oeddwn i'n haeddu'r teitl Mawr - Herod Fawr?

"Na!" mi clywa i chi'n deud.
"O, na. Chi oedd yn gyfrifol am ladd yr hogia bach yna dan ddwyflwydd oed."
Dydw i ddim isio'ch strybio chi, ond dim ond eich Beibl chi sy'n cynnwys y digwyddiad yna - does yna ddim un ffynhonnell arall.

Adeiladwr a phensaer
Dew, mae'n anodd argyhoeddi pan fo pobl wedi'u cyflyru. Ond mi ydw i am drio.

Y fi oedd yr unig frenin i gadw heddwch yn y wlad. Roeddwn i'n adeiladwr a phensaer o fri. Beth am y Deml yn Jerwsalem a'r palas, palas Herod yn yr un ddinas a'r palas yng Ngheserea ar lan y m么r?

Roeddwn i'n ddyn hael iawn hefyd. Pan oedd yr Iddewon mewn cynni mawr yn y flwyddyn 25 CC mi benderfynais i ad-dalu trethi yn 么l i'r bobl ac yn ystod cyfnod o newyn mawr yn y wlad mi benderfynais i doddi fy ngwisg o aur er mwyn ei gwerthu a phrynu grawn i fwydo'r bobl.
Ydw i wedi'ch argyhoeddi?

Ochr arall
Oedd, oedd, mi roedd yna ochr arall i nghymeriad i. Mi ddeudodd Cesar Awgwstws fod yn saffach bod yn fochyn i mi nag yn fab.

"Hws" ydi'r gair am fochyn a "huios" ydi'r gair am fab - felly, chwarae ar eiriau oedd Awgwstws.

Do, do, mi ddienyddiais i un o'm gwragedd; Marianne, a'm mam yng nghyfraith, Alexandra. Do, mi orchmynnais ddienyddio dau o'm meibion hefyd, Alexander ac Aristobolws.

Pan oeddwn i wedi cyrraedd 70 oed mi wnes i ymadael a mynd i fyw i Jericho, tref brydferth iawn oedd Jericho.

Mi orchmynnais i'm milwyr garcharu criw o w欧r amlwg Jerwsalem, heb achos o gwbl, ac yna pan fyddwn i'n marw, fod y rhain i'w lladd, oherwydd roeddwn i'n gwybod na fyddai neb yn galaru ar fy 么l i, ond mi fyddai yna bobl yn colli dagrau ar fy marwolaeth - nid drosta i wrth reswm, ond anwyliaid y gw欧r amlwg o Jerwsalem.

Rwy'n si诺r eich bod chi'n gofyn i ba ddyfnderoedd y gall hwn ddisgyn. Ie, dyna'r ochr arall i fy nghymeriad i.

Meddyliwch amdanaf i'n clywed fod babi bach wedi eni oedd yn mynd, ryw ddydd, i ddod yn Frenin.
Y fi oedd y brenin - Herod Fawr.

'Fy ngadael allan'
Dowch yn 么l i'r Nadolig cyntaf 'na.
Tydio'n rhyfedd, dwch, fod pob un yn y ddrama yna wedi cael eu paratoi ymlaen llaw.

Roedd y bugeiliaid yna ar lethrau Bethlehem wedi gweld a chlywed angel ac wedyn wedi clywed c么r ohonyn nhw'n canu ar hyd ac ar led y llechweddau.

Chlywais i ddim byd. Y doethion yna wedyn yn gweld y seren ac yn teithio ar draws y gwledydd ac yn cael eu harwain at y mhalas i, i ddechrau, ac yna at y beudy. Ond welais i'r un seren.

Y rhieni yna wedyn. Mair yn gweld yr angel Gabriel a Joseff yn cael breuddwyd.

Welis i ddim angel. Ches i ddim breuddwyd.

Simeon ac Anna, yr hynafgwyr yn adnabod y babi bach ac yn gweld fod eu hawr wedi cyrraedd.
Ond welais i ddim byd.

Herod y Brenin, chafodd o ddim breuddwyd, welodd o ddim angel, na seren na gweledigaeth.

Mi ges i ngadael allan o'r paratoad. Doeddwn i ddim yn rhan o'r dathlu o gwbl.

Mi ydw i wedi bod yn meddwl pam.
Dyn chwerw oeddwn i. Mae pobl chwerw yn chwerw efo pobl eraill, efo bywyd yn gyffredinol ac o'r herwydd yn tueddu i golli llawer a chael eu gadael allan. Does yna neb eisiau bod yng nghwmni pobl chwerw. Mae'n nhw'n gallu diflasu'r awyrgylch i gyd.

Ac yn aml iawn mae chwerwder yn ein dallu i'r gwirionedd. Dydi pobl chwerw ddim yn gallu gweld yn glir; mae eu rhagfarnau a'u rhwystredigaethau yn eu dallu nhw.

Heb gred
Dyn di-gred oeddwn i.
Doeddwn i'n credu mewn neb na dim - dim ond fi fy hun.

Roeddwn i'n arwr i mi fy hun.
Roeddwn i'n gweld pob dim drwy fy llygaid fy hun.
Roeddwn i'n ddigon hapus yn byw yn fy myd fy hun, yn meddwl am neb na dim arall.

Doeddwn i ddim yn chwilio am ddim tu hwnt i mi fy hun. Yn sicr doeddwn i ddim yn chwilio am ddim byd goruwchnaturiol.

Roedd fy nuw i yn Rhufain, y Cesar Awgwstws.

Efallai y buasech chi'n dweud mai byd bach, byd wedi ei gyfyngu oedd y myd i. Wyddwn i ddim am fyd arall - byd ysbrydol. Byd lle mae Duw yn real. Ac mae pobl fel na'n colli'r preseb, y s锚r a'r angylion.

Roedd fy meddwl i'n hollol gaeedig ac anodd iawn ydi torri drwodd i feddyliau fel'na. Tydi pobl a meddyliau caeedig ddim yn gweld y gogoniant. Dydi pobl fel'na byth yn clywed na gweld angylion ac yn sicr ddim yn clywed c芒n angylion.

Dydi pobl fel'na byth yn gweld seren yn y Dwyrain na byth yn gweld gobaith y dyfodol mewn babi bach.

Balch a thrahaus
Fues i erioed yn wrand盲wr da. Doedd yna ddim dyhead i wrando ar eraill a dysgu oddi wrthyn nhw.

Na, roeddwn i wedi tra arglwyddiaethu. Dyn balch, trahaus oeddwn i.

Ydi, mae balchder yn lladd - lladd perthynas, lladd yr enaid, balchder sy'n cadw pobl rhag cyfaddef fod yna wybodaeth arall. Balchder sy'n cadw llywodraethau rhag syrthio ar eu bai. Balchder sy'n ein cadw ar lefel bersonol rhag dweud 'sori' neu maddeuwch i mi.

Balchder sy'n ein rhwystro rhag maddau i'n gilydd. Balchder sy'n ein cadw o Deyrnas Dduw. Balchder sy'n dinistrio perthynas a chyfeillgarwch ac sy'n gallu dinistrio'r enaid.
Do, mi wnes i alw'r ysgrifenyddion a'r holl brif offeiriaid at ei gilydd er mwyn i mi gael gwybod ble roedd y Meseia i gael ei eni.

Ac fe ddatgelwyd i mi broffwydoliaeth yr hen broffwyd Meica oedd wedi sgwennu bum can mlynedd cyn y digwyddiad, mai ym Methlehem y byddai'r un bach yn cael ei eni. Ond wnes i ddim gwrando. Doedd gen i ddim dymuniad na dyhead i wrando ar na phroffwydoliaeth na geiriau pobl oedd yn gwybod yn well na mi.

Na dydi pobl debyg i mi, ac mae fy mentaliti i yn dal i grwydro'r byd heddiw, dydi pobl fel ni byth yn gweld. Ein teip ni'n aml sy'n colli'r gogoniant.

Pobl fel fi sydd byth yn gweld gogoniant yn y machlud, byth yn gweld cyfaredd yr enfys, byth yn dotio ar gochni'r wawr yn torri.
Byth yn gweld y potensial a'r wyrth mewn babi bach.

Heb ddod yn 么l
Mae o wedi mhoeni i ar hyd yr oesoedd pam na ddaeth y doethion yna'n 么l i ddeud ei hanes wrtha i.

Na mi aethon nhw i'w gwlad eu hunain, ar hyd ffordd arall. Nid yn y mhalas i y cafodd nhw eu bodloni ond yn y beudy.

Mae'n amlwg eu bod nhw wedi cael gweledigaeth y diwrnod hwnnw nad oedd modd perffeithio arni.

A phan ydach chi wedi gweld y perffaith does yna ddim modd byw efo'r gwael a'r gwachul wedyn.

Ai dyna'r stori
Wel dyna fy stori, do fe ges i ngadael allan o ddrama'r Nadolig cyntaf.

Mi ydw i am droi'r cwestiwn ar ei ben r诺an. Ond a'i dyna ydi stori'r Nadolig o hyd?

A'i dyna stori'r Nadolig y bore yma? Yr angylion, y s锚r, y bugeiliaid, y doethion, y beudy, y rhieni.

Y tinsel, y trimins, y siopa a'r gloddesta, y goeden Nadolig a'r cardiau ond lle mae'r Brenin. Ydi yntau, fel finnau, wedi'u adael allan o'r ddrama fawr Duw yn dod yn ddyn.

Byddwn yn wyliadwrus y Nadolig rhag ofn i ni golli'r hud sy'n rhoi blas ar fyw.

Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy