成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Y Doethion neu Seryddion
Adnabod y doethion!
Y seryddion oedd pwnc y gwyddonydd, Deri Thomas, yn nhrydedd oedfa tymor yr Adfent 2007 a ddarlledwyd 16 Rhagfyr 2007 ar 成人快手 Radio Cymru.

Darllenodd Deri Thomas o Yr Enw Mwyaf Mawr gan gan Huw John Hughes ac o Blwyddyn Gyda Iesu gan Gyhoeddiadau'r Gair.

Gweddi
Gwyddom mai pan mae'r nos ar ei thywyllaf, yn aml, yr ydyn ni'n gallu gweld bellaf. Po dued yr awyr, po gliriaf yw hi er mwyn i ni allu gweld y smotiau bach o s锚r uwch ein pennau. Ond gwyddom hefyd, oherwydd pellter y s锚r hynny, eu bod nhw wedi hen losgi allan cyn i'w goleuni deithio meithder y gofod i'n cyrraedd ni.

Ar drothwy G诺yl y Geni, diolch am seren gafodd ei hanfon i'n wybren ni ugain canrif yn 么l, seren yr ydyn ni'n dathlu ei chyfodiad hi y Nadolig hwn, a phob Nadolig arall. Y seren sy'n dal i oleuo mor llachar ag erioed. Seren na fydd yn llosgi allan.

  • Y Seren:
    I Mathew, yr Iddew, eglurodd fod y seren yn arwydd o ddyfodiad y Meseia ac mai yn llyfr y Datguddiad y ceir yr unig gyfeiriad at "seren ddisglair y bore" sy'n disgleirio pan fo'r wawr yn torri.

    "Pan fo'r seren hon yn codi, dydi'r diwrnod a'i holl bosibiliadau ddim ymhell. Dyma ddigwyddodd pan ddaeth Iesu i'r byd. Byd o dywyllwch a phobl yn crafangu i chwilio am y gwirionedd oedd y byd, ond yn Iesu datgelwyd y gwirionedd," meddai.

    Gweddi
    Yn nhywyllwch nos, neu ar dorriad gwawr, dewch i ni gyd - yn ddoeth ac yn syml - ddod unwaith eto at grud Iesu Grist. Dyna neges y Nadolig hwn, a phob Nadolig arall.

    Dewch i ni ddod, uched ein parch, a phlygu glin. Dewch i ni ddod, yn dlawd neu'n gyfoethog, yn llwythog o anrhegion - gan gofio nad anrhegion cerdyn credyd yw'r mwyaf gwerthfawr.

    Wrth i ni ddod i'r stabl lle mae pawb yn gyfartal yn llewyrch un seren wen, dewch i ni gofio cydnabod y bugeiliaid a'r angylion a gyrhaeddodd o'n blaenau ni.

    Ac, yn fwy na dim arall, dewch i ni obeithio, ar 么l ymweld 芒'r babi bach mewn cadachau, na fyddwn ni'n dychwelyd i'r un hen lwybrau bywyd. Dewch i ni adael Bethlehem, fel y seryddion, "ar hyd ffordd arall", wedi ein newid am byth.
    Amen.

  • Gwneud a dweud stori
    Cymharwyd ein bywydau i stori sy'n cael ei hysgrifennu bob dydd o'n hoes gyda chymeriadau gwahanol i'w cyfarfod:

    "Os ydyn ni am fyw bywydau sy'n ein gwneud ni'n debycach i Iesu, mae'n rhaid i ni weld, ym mhob un o'r bobl sy'n croesi ein llwybrau bob dydd, eu bod nhw'n rhoi cyfle i ni ddatblygu a dyfnhau ein ffydd," meddai.

    Cyfeiriodd hefyd at Dduw fel awdur stori gyda'r hyn a ddigwyddodd ym Methlehem "y dudalen gyntaf yn stori g诺r ifanc a fyddai'n newid stori'r byd yn grwn.

    "Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad mai trwy gyfrwng straeon - neu ddamhegion - y dewisodd Iesu Grist fynd ati i siarad 芒'r bobol fyddai'n dod i wrando arno'n pregethu," meddir.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy