成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Bugail yn nrama'r geni Bugeiliaid
Pwy oedd y bugeiliaid - beth yw eu neges?
Oedfa gyntaf tymor yr Adfent gan Dan Puw - darlledwyd 2 Rhagfyr 2007 ar 成人快手 Radio Cymru.

Cyflwyniad
Bugeiliaid - y bobl debycaf i ni . . .
Doedd gwaith bugail ddim yn waith hawdd yn ardal Bethlehem o gwmpas cyfnod y Nadolig cyntaf hwnnw, ddwy fil o flynyddoedd yn 么l.

A dydi gwaith bugeiliaid neu unrhyw un sy'n ymwneud 芒'r diwydiant amaeth a chefn gwlad ddim yn hawdd heddiw, petae'n dod i hynny.

Ond yn fwy na gorfod ymdopi 芒 chlefydau cyfoes fel y Tafod Glas a chlwy'r traed a'r genau, neu fyw ar golled mewn byd sy'n israddio crefft y ffermwr, a byd lle mae'r archfarchnadoedd mawr yn elwa ar ei lafur, roedd yna stigma lot mwy yngl欧n 芒 bod yn fugail adeg geni Iesu Grist.

Ar wah芒n i fod yn greaduriaid digon garw, oedd yn treulio'u nosau allan yn yr awyr agored yn gwarchod eu preiddiau rhag anifeiliaid rheibus, gwyllt, doedd gan fugeiliaid ddim enw da iawn. A dweud y gwir, mae yna gofnodion hanesyddol sy'n nodi fod bugeiliaid yn un o'r teips nad oedd yn cael rhoi tystiolaeth mewn llysoedd barn, oherwydd eu bod nhw'n cael eu hystyried yn bobol anonest.
Pam, meddech chi? Wel, am eu bod nhw, weithiau, yn mynd 芒'r defaid oedd yn eu gofal ac yn eu gosod nhw i bori ar diroedd pobol eraill.

O holl gymeriadau Stori'r Geni, does yna ddim dwywaith mai'r bugeiliaid ydi'r bobol fwyaf normal ohonyn nhw i gyd.

Does yna ddim ffws na ffrils o'u cwmpas nhw; does ganddyn nhw ddim rhyw allu arbennig nag ochr ddwyfol i'w personoliaeth. Nhw sy'n rhoi i'r holl hanes yr agwedd werinol, traed ar y ddaear.
Efallai mai nhw sydd debyca' i ni.

Felly, pan fo'r giwed o fugeiliaid, yn ystod un o'u shifftiau anghymdeithasol, yn clywed angel yn siarad efo nhw, ac yna'n mynd ac yn gadael yr anifeiliaid ar lethrau'r mynydd er mwyn mynd i weld y baban Iesu, be allwn ni ei ddwyn o'r stori hon?

Yno, yn y tywyllwch, yn yr unigeddau, a dim ond s诺n nos o'u cwmpas nhw, maen nhw'n gweld goleuni nefol ac yn clywed neges sy'n eu tynnu nhw oddi wrth eu gwaith ac yn rhoi pwrpas newydd iddyn nhw - sef dod o hyd i'r stabal lle mae'r Iesu wedi ei eni.

Mae'r stori'n dweud yn glir iddyn nhw gael dipyn o sioc pan ddigwyddodd hyn - ac iddyn nhw, hyd yn oed, deimlo'n ofnus. Ond, wrth i'r llais barhau i siarad efo nhw, mae'r bugeiliaid yn penderfynu gwrando arno a chychwyn ar eu taith.

Darlleniad: Y Bugeiliaid a'r Angylion (Luc 2: 8-20)

Gweddi

Myfyrdod
Mae yna nifer o bobol sydd wedi astudio straeon y Beibl dros y blynyddoedd, yn cynnig esboniadau i ni ar wahanol gymeriadau Stori'r Geni.

  • Y bugeiliaid sy'n cynrychioli pobol ddi-ddysg a syml y byd, sydd, yn yr hanes hwn, yn cyrraedd y stabal cyn y doethion.

  • Y bugeiliaid, yn 么l eraill, ydi'r bobol ar y cyrion, y bobol amheus a'r drwgweithredwyr, sy'n cael eu cynnwys yn y stori, dim ond iddyn nhw wrando ar lais yr angel.

  • Neu, ai'r bugeiliaid ydi'r tlodion sy'n dod ag anrheg o oen i'r baban yn y preseb - gan roi y cyfan oedd ganddyn nhw?

  • Neu tybed ai rhagfynegi marwolaeth maen nhw, gan fod yna rai arbenigwyr yn honni mai nid gofalu am ddefaid cyffredin oeddan nhw y noson honno, ond gwarchod defaid a fyddai, ymhen y rhawg, yn cael eu haberthu, fel digwyddodd i Iesu Grist ei hun.

    Pa bynnag ddarlun sy'n gywir - ac efallai eu bod nhw i gyd yn bosib - does dim dwywaith fod Stori'r Geni wedi codi statws y bugail. Ac onid dyna neges efengyl Crist?

    Myfyrdod 2
    Pwyslais ar fugeilio
    Go brin fod Iesu Grist yn cofio ymweliad y bugeiliaid 芒'r stabal - ychydig oriau wedi ei eni. Ond mae, er hynny, ar 么l tyfu'n hyn, yn rhoi pwyslais mawr ar y bugail wrth iddo fynd o gwmpas yn pregethu.

    Mae'n defnyddio'r bugail mewn straeon a damhegion er mwyn cyflwyno neges y byddai ei gynulleidfa yn ei deall, a thrwy wneud hyn, mae'n cynnwys y bugail, ynghyd 芒'r Samariaid a'r casglwyr trethi a'r gwrthodedig eraill, yn ei gymuned newydd o.

    A phan mae o'n gweld fod y diwedd yn dod, mae o'n annog ei ddisgyblion, nid i fod yn Ysgrifenyddion nac yn Phariseaid parchus a da, ond i fod yn fugeiliaid. Hynny ydi, i ofalu am ei bobol a'u holl allu a nerth; i fwydo'r praidd yn gorfforol a meddyliol, ac i'w hannog nhw i gyd-fyw ac i warchod ei gilydd ar lethrau bywyd.

    Darlleniad: Dameg y Ddafad Golledig (Luc 15: 1-7)

    Gweddi.

    Gair am natur defaid. Holi Dan Puw. (Sain yn unig - gweler uchod)


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy