Mae Dafydd ar hyn o bryd yn y Brifysgol ym Mangor yn cyflwyno gwaith ymchwil PhD ar Michael D Jones. Mae hefyd yn Gymrawd Dysgu yn yr Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn y Coleg."Pwrpas f'ymweliad a Phatagonia ym misoedd Hydref a Thachwedd 2003 oedd chwilio am ddogfennau a fyddai o ddiddordeb i'm gwaith ymchwil ar Michael D. Jones, un o sylfaenwyr y Wladfa. Fel y gobeithiwn, deuthum ar draws amryw o lawysgrifau a hen greiriau difyr.
Ond yn gwbl annisgwyl i mi, dychwelais i Gymru yn teimlo fy mod wedi gweld rhywbeth llawer mwy arbennig na chofnodion o'r oes a fu.
Mae'n debyg mai un o'r sylwadau mwyaf cyffredin gan ymwelwyr a Dyffryn Camwy, y man lle ymsefydlodd y Cymry ym 1865, yw bod gormod o ramantu wedi bod yngl欧n 芒'r Wladfa Gymreig.
Lle sych a phellennig yw'r Dyffryn, ac er bod afon Camwy a rhwydwaith o gamlesi yn rhoi rhywfaint o ffrwythlondeb iddo, crasu yng ngwres yr haul tanbaid a wna popeth sydd y tu hwnt i'w cyrraedd. Trwy ddringo'r llethrau, gellid gweld mai ynys o dir 芒r wedi ei amgylchynu gan f么r o baith yw'r Wladfa mewn gwirionedd, ac o ystyried mai ffrwyth llafur ymfudwyr yw'r ychydig wyrddni sydd yno, anodd yw dychmygu teimladau'r Cymry wrth iddynt gyrraedd y Dyffryn am y tro cyntaf.
Yn sicr, sychder y tir anial a ddaliodd fy llygad i gyntaf.
Wedi dweud hynny, credaf nad yw ychydig ddyddiau'n ddigon o gyfle i werthfawrogi'r bywyd Gwladfaol. Rhaid dod i adnabod un neu ddau o siaradwyr Cymraeg yr ardal, a chael eich cyflwyno i'r bobl sy'n defnyddio'r iaith, er mwyn deall bod llawer mwy na thirwedd a hinsawdd i ryfeddu ato yn Nyffryn Camwy.
Mae'n wir mai dim ond ychydig o bobl Dyffryn Camwy, a chyfran fechan o'r bobl o dras Gymreig, sy'n parhau i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd!
Mae dylanwad y cysylltiad Cymreig i'w weld ar sawl agwedd o fywyd yr ardal, ond ni chlywir y Gymraeg ar strydoedd y Gaiman, Dolafon na Threlew mwyach, ac ychydig aelodau o'r genhedlaeth hynaf sy'n ei siarad fel iaith gyntaf erbyn hyn.
Byddai'n ddigon hawdd rhoi darlun digalon o'r sefyllfa hon. Ond ni ellir osgoi'r ffaith bod yr iaith Gymraeg yn sail i bob math o weithgarwch yn Nyffryn Camwy. Er y bydd colli'r genhedlaeth hynaf yn ddiwedd cyfnod yn hanes y Wladfa, mae yno fywiogrwydd nad yw'r twristiaid yn aml yn ei weld.
Caiff plant o bob cefndir gyfle i ddysgu Cymraeg yn Ysgol Camwy, ac mae'r ardal yn cynhyrchu athrawon ifanc ei hun i wneud hynny.
Mae Ysgol Gerdd y Gaiman yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg y tu allan i'r ysgol. Treuliais un penwythnos yn rhoi cymorth mewn gwersyll Cymraeg i blant yr ardal, ac er mai dim ond gwybodaeth sylfaenol o'r iaith oedd gan y mwyafrif ohonynt, yr oedd hi'n amlwg eu bod yn cael hwyl wrth ei dysgu.
Nid i weithgareddau'r plant yn unig y mae'r iaith Gymraeg yn ganolog. Yn wir, yr oedd y gwersyll yn nodweddiadol o'r brwdfrydedd a'r ymdrech barhaol sydd i hybu'r Gymraeg yn y Dyffryn. Mae hefyd G么r Cymraeg i oedolion y Gaiman; cefais groeso mawr ganddynt, a b没m yn canu gyda hwy.
Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yw'r Eisteddfod a gynhelir yn Nhrelew ym mis Hydref, ond cynhelir ymarferion a Chyngherddau trwy'r flwyddyn. B没m hefyd i nosweithiau cymdeithasol lle'r oedd cyfle i sgwrsio yn y Gymraeg, ac i'r 'Bwthyn Bach' lle byddai dynion yr ardal yn cyfarfod ar nos Wener i wledda a chanu yng nghwmni ei gilydd.
Euthum i'r Wladfa yn ymwybodol o'r caledi a wynebodd y Cymry ar eu glaniad ym Mhatagonia ym 1865. Yn sicr, buaswn yn gwadu unrhyw gyhuddiad o ramantu yngl欧n 芒'r fenter, ond rhaid deall mai eilradd oedd tirwedd a hinsawdd yng ngolwg Michael D. Jones wrth geisio sefydlu Gwladfa Gymreig.
Ei weledigaeth, yn ei hanfod, oedd diogelu cymdeithas a'r Gymraeg yn gonglfaen iddi. Nid Cymraeg yw prif iaith y Wladfa bellach. Ond wrth ddychwelyd i Gymru, ni allwn beidio 芒 theimlo bod rhywfaint o'r weledigaeth honno yn aros yn y modd y mae'r iaith yn parhau yn sylfaen i fywyd cymunedol rhai o drigolion Dyffryn Camwy."