Beth yw cefndir y gystadleuaeth hon?
Ers y ddwy flynedd diwethaf, i gyd-fynd 芒 chystadleuaeth Gwobr Nationwide Mercury i gerddorion, cynhaliwyd cystadleuaeth i fyfyrwyr Colegau Celf a Phrifysgolion trwy Brydain. Roedd 1,6000 fyfyrwyr o dros 120 Coleg wedi cystadlu a'r gwaith buddugol i'w ddefnyddio fel clawr i'r CD sydd i'w ryddhau yng Ngorffennaf 2006. Yn ogystal roedd gwobr o 拢5,000 i'r enillydd. Yr her oedd creu darn o waith celf oedd wedi ei ysbrydoli gan gerddoriaeth.
Fedri di ddisgrifio'r gwaith?
Mae'r cerflun Colour Music yn cynnwys 35 o flociau pren a dur wedi'u peintio mewn gwahanol liwiau. Mae'r darn fel catalog lliw o'r gerddoriaeth roeddwn yn gwrando arni wrth wneud y gwaith. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn lliw a sut mae lliwiau a defnyddiau, megis dur, yn dylanwadu ar ei gilydd. Alli di roi enghraifft i mi? Wel, fedra' i ddim egluro pam ond wrth wrando ar gerddoriaeth yr Yeh Yeh Yehs, y lliw gwyrdd oedd yn dod i'r meddwl. Pryd gefaist ti wybod dy fod wedi ennill y wobr? Roeddwn yn gwybod ddiwedd mis Mawrth fy mod ar y rhestr fer o 60 a bod fy ngwaith i a'r artistiaid eraill yn cael ei arddangos yn yr Hospital Gallery yn Covent Garden, Llundain. Roedd rhaid i ni gyd fynd i Lundain i'r Oriel ar brynhawn dydd Llun, 10 Ebrill i gael cyfweliadau a thynnu'n lluniau gyda'n gwaith. Yna gyda'r nos roedd lansiad yr arddangosfa ac am 7.30 o'r gloch roedd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.
Sut deimlad oedd deall dy fod wedi ennill? Mae'n anodd disgrifio - roedd yn anhygoel. Beth mae ennill y wobr yn ei o1ygu i ti? Roedd yn fraint meddwl bod Syr Peter Blake, a ddyluniodd glawr record y Beatles, Sgt Pepper's Lonely Hearts Club Band a dylunwyr enwog eraill fel Mark Tappin a Simon Gofton sydd wedi cynllunio cloriau i fandiau fel Coldplay a'r Chemical Brothers, wedi beirniadu'r gystadleuaeth a'm bod i wedi'u cyfarfod nhw yn yr Oriel yn Llundain. Dwi'n gobeithio bydd y wobr yn help mawr i mi wrth gychwyn fy ngyrfa fel artist. Beth yw dy gynlluniau ar 么l gorffen dy gwrs? Parhau i weithio ym myd celf a gobeithio mynd mlaen i wneud cwrs arall. Be wnei di efo'r arian? Mwy na thebyg mi fydd yn mynd tuag at rentu stiwdio. Llongyfarchiadau mawr unwaith eto i Gethin a bydd darllenwyr y Goriad yn si诺r o ddilyn dy yrfa.
|