成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
George Owen ar gopa'r Wyddfa Dyn o Benrhos ar y brig
Rhagfyr 2007
George Owen, Rhoswyn, Penrhosgarnedd, sy'n gweithio ar gaffi newydd Yr Wyddfa.
Ac yntau'n saer ers bron hanner canrif, go brin y bu George Owen o Fangor yn nes at y nefoedd yn ei waith bob dydd. Eleni bu'n ennill ei fara menyn ar gopa'r Wyddfa, yn rhan o'r giang sy'n codi caffi newydd yno.

Hwyrach y cofiwch i Dywysog Cymru sbarduno'r newid ar y copa, drwy gyfeirio at yr hen gaffi yno fel 'slym uchaf Prydain'.

Yn dilyn ei sylw plaen aethpwyd ati i godi'r miliynau angenrheidiol, ac mae'r gweithwyr yn prysur gwblhau'r prosiect ar gost o dros 拢8 miliwn. A bu George Owen, Rhoswyn, Penrhosgarnedd, yn rhan allweddol o'r gwaith, yn rheoli t卯m o seiri coed wrth iddyn nhw frwydro'n ddyfal yn erbyn yr elfennau.

Mae gan gopa'r Wyddfa ei dywydd ei hun wrth gwrs, ac aml dro mae George wedi ei chychwyn hi am y copa ar y tr锚n bach a hithau'n tywynnu haul yn Llanberis, ond erbyn cyrraedd y brig gall bod eira'n lluwchio'n drwm a'r amgylchiadau'n debycach i'r Arctig.

Y llynedd bu George yn helpu efo'r gwaith o chwalu'r hen adeilad a'i gludo fesul deg tunnell ar y tr锚n i lawr i Lanberis.

Ym mis Mawrth bu'n gosod y sylfaen ar gyfer y caffi newydd, a elwir yn Hafod Eryri (neu How odd Shirley chwedl y Brummies) - ac mae'r gwaith o godi'r adeilad yn prysuro'n ei flaen tan 7 Rhagfyr, pan fydd y fenter yn dod i ben dros y Gaeaf oherwydd y tywydd garw, ac er mwyn rhoi cyfle i gwmni Tren Bach yr Wyddfa drwsio a chynnal y cledrau.

Yn wreiddiol o Sling ger Tregarth, symudodd George Owen i Fangor ar 么l priodi. Bu'n saer coed ers yn bymtheg oed a hynny ers 48 o flynyddoedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy