Mae'r Wyl eisoes wedi derbyn nawdd a chefnogaeth gan nifer o gwmn茂au a mudiadau sy'n cefnogi'r celfyddydau yng Nghymru. "Mae'n bur debyg fod nifer fawr wedi mwynhau sioe ddiweddar Theatr Bara Caws, 'Fel Hen Win', a oedd yn olrhain hanes Wil Sam', meddai Janice Jones, cydlynydd yr Wyl. "Yn dilyn llwyddiant ysgubol y perfformiad hwn, fe fydd nifer o gwmn茂au amateur ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cyflwyno perfformiadau o rai o ddram芒u mwyaf poblogaidd y dyn ei hun yn ystod Gwanwyn a Haf 2003 fel rhan o'r Wyl. "Bwriad y fenter hon yw rhoi lle amlwg i waith Wil Sam ar ein llwyfannau lleol, yn ogystal 芒 datblygu a meithrin y cysylltiad rhwng y theatr broffesiynol 芒 grwpiau drama gwirfoddol yng Nghymru". Penllanw'r Wyl fydd cystadleuaeth wedi ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, cystadleuaeth a fydd yn gwobrwyo'r gorau o un o ddram芒u byrion Wil Sam gan gwmni amateur. Ers dros hanner canrif bellach, mae Wil Sam wedi bod wrthi'n ysgrifennu dram芒u sydd wedi ei seilio ar bobl a digwyddiadau go iawn yn ei gornel ef o Eifionydd. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd ddram芒u i'w darlledu gan y 成人快手 ym Mangor a bu'n un o Gwmni Theatr y Gegin yng Ngriccieth, criw a fu'n cyflwyno cynyrchiadau amrywiol yn y lleoliad hwnnw o 1963 hyd 1976. "Yn ystod yr Wyl cewch gwrdd 芒 chymeriadau amrywiol ac unigryw megis Crysmas Huws yn y ddrama 'Y Dyn Swllt' Bobi a Sam yn eu drama hwy: Seimon, a dderbyniodd tipyn mwy o sylw nag oedd yn ei ddisgwyl wrth geisio swyno Miss Wyn yn y ddrama 'Seimon y Swynwr' a llu o gymeriadau eraill", eglurodd Janice Jones. Noddwyd yr Wyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffilmiau'r Nant ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm. Cefnogwyd yr Wyl gan Gymdeithas Ddrama Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Theatr Cymru a'r Adran Ddiwylliant, Cyngor Gwynedd.
|