Nos Wener, 11 Ebrill daeth criw da o gefnogwyr y papur bro i Glwb Rygbi Bangor yn eiddgar i gynnig am yr eitemau amrywiol yr oedd trefnydd y noson, Gari Wyn, wedi llwyddo i'w casglu ynghyd.
O hances boced hynafol i benwythnos i deulu yn Nice ni fu pall ar y bidio ac ni fu pall ychwaith ar yr hwyl.
Yn ystod noson o wario a chwerthin aeth yn agos at drigain o eitemau o dan forthwyl y ddau arwerthwr gwadd, Dafydd Hardy a John Ogwen. Ymhlith yr eitemau mwyaf drudfawr yr oedd llun gwreiddiol o Gastell Caernarfon gan yr artist William Selwyn. Llwyddodd yr eitem hon yn unig i godi 拢2,800 at yr achos.
Bu cryn fynd hefyd ar grys rygbi Cymru a oedd wedi'i arwyddo gan dim buddugoliaethus y Gamp Lawn. Wedi'r bidio brwd, daeth y morthwyl i lawr ar gynnig o 拢400.
Ymhlith yr eitemau mwyaf difyr a werthwyd yn ystod yr ocsiwn yr oedd copi unigryw o'r Gwyddoniadur. Llwyddodd cynnig o 拢90 i sicrhau copi wedi'i arwyddo gan y pedwar golygydd, ond copi a oedd hefyd yn cynnwys dau gofnod newydd sbon am ddau Gymro sy'n dal i fod ar dir y byw, sef John Ogwen a Gari Wyn.
Wrth gyhoeddi'r cyfanswm a godwyd ar ddiwedd y noson roedd y trefnydd a Llywydd y papur, Gari Wyn, yn ei elfen:
"Mae'r arian sydd wedi cael ei godi yma heno a'r brwdfrydedd sydd wedi cael ei ddangos wrth wneud hynny yn dangos yn glir fod pobl Bangor a'r Felinheli am weld eu papur bro yn parhau. A'r hyn sy'n wirioneddol braf yw bod yr ocsiwn wedi dangos cymaint o hwyl sydd i'w gael pan ddaw pobl yr ardal at ei gilydd fel hyn".
Dymuna Swyddogion Goriad ddiolch o galon i bawb a gynigiodd eitemau ar gyfer yr ocsiwn ac i bawb hefyd a fu'n cynnig amdanynt, heb anghofio Gari Wyn ei hun a'i waith trefnu diflino.
|