Ond dydi hi ddim yn westy r诺an - Student Accommodation ydi'r lle gydag estyniad i'w gwneud yn hostel breifat. Dwi'n rhoi'r geiriau Saesneg oherwydd welais i'r un gair Cymraeg ar y llechen wrth y giat ar wah芒n i Neuadd yn Neuadd Willis.
A fydd 'na neb o'r 179 fydd yn aros yno yn poeni'r un ffeuen si诺r gen i, oherwydd rhan o'r 10,000 o'r rhai sy'n astudio ym Mangor sy'n byw yno. A digon prin fod mwy na'r ganfed ran ohonyn nhw yn meddwl nad oes dim yn anarferol mewn cael arwydd bach Saesneg ar gi芒t un o'r Neuaddau.
Oes, mae deng mil o fyfyrwyr ym Mangor eleni, yn 么l yr hyn a glywodd Cynghorwyr Dinas Bangor mewn cyfarfod diweddar. Dyna egluro pam fod yn rhaid cael arwyddion mewn gwahanol liwiau ar y ffyrdd i'w harwain i'w llety ar Sul cynta'r tymor. Ac esboniad hefyd pam ei bod yn orlawn ar y ffyrdd a'r palmentydd ym Mangor Uchaf unwaith y cyrhaeddodd yr hydref.
Ond o edrych arni'n gadarnhaol, mae safle newydd y British wedi gwella golwg yr ardal ac wedi rhoi sbonc newydd i'r pen yna o Ffordd Farrar. Trueni fod y Plaza wedi cau fymryn cyn i'r lle newydd agor. Wrth gwrs mae'n hawdd iawn deall pam. Doedd 'na fawr iawn yn mynd yno. Dydi'r ifanc ddim am fynd i le ansafonol i weld ffilmiau. Mae'n rhaid cael eich 'myltiplecsus' a dewis eang o ffilmiau yn yr un lle cyn y byddan nhw'n meddwl mynd drwy'r drysau.
Be' ddaw o'r hen Plaza, y sinema sy'n dwyn atgofion i lu mawr ohonom a man anfarwolwyd gan Islwyn Ffowc Elis yn ei gyfrol o ysgrifau yn Cyn Oeri'r Gwaed. "Wedi ymlacio ym melfed seddau'r Plaza yr oeddwn pan glywais hi gyntaf" oedd ei eiriau wrth ddechrau'r ysgrif Melodi. Wn i ddim am y melfed ond roedd lle i goesau rhywun wedi mynd yn gyfyng iawn rhwng y seddau wedi iddyn nhw ei hail wampio a'i throi yn ddwy sinema.
Ond beth sy'n mynd i ddigwydd iddi (a does gen i ddim syniad pam mai merch yw sinema i mi). Mae na si y bydd yn cael ei chwalu a wnawn ni ddim colli'r bensaern茂aeth siawns gen i - a'i wneud yn Student Accomodation. Be arall wnewch chi mewn dinas sy'n cartrefu 10,000 o fyfyrwyr?
A beth am sinema, heblaw Theatr Gwynedd, i wasanaethu'r ddinas sy'n bochio 芒 phobol ifanc? Y si yngl欧n 芒 hynny yw fod rhai 芒 diddordeb mewn agor myltiplecs yn Stad Ddiwydiannol Llandygai. Ar bob cyfri. Does gan bob stiwdant gar i fynd 芒 fo/hi yno ac mae'r ddinas angen eu lle, o dro i dro.
|