成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Catrin, Rhys a Gwenno Tomos Mis yn America gan Catrin, Rhys a Gwenno Tomos
Mai 2003
"O O O O Oklahoma, where the wind goes sweeping down the plain..." a hwnnw'n wynt cynnes!
Yma yn treulio'r Pasg yn Tulsa Oklahoma, efo Owen, cefnder dad, ei wraig Lori a'u plant Megan a Bryn (do wir fe gafodd ei enwi ar 么l dad!) Mae tad a mam Owen yn siarad Cymraeg ac maen nhw'n byw yma yn Tulsa hefyd.

Fe deithion ni am awr a hanner Ddydd Sul y Pasg i glywed Yncl Richard yn pregethu. Fe gawson ni helfa wy pasg Ddydd Sul - mae'n draddodiad yma i guddio basgedi yn yr ardd a gwneud i'r plant fynd i chwilio amdanyn nhw. Roedd ein basgedi ni yn llawn o fferins ac anrhegion!

Ond tydyn nhw ddim yn cael gwyliau pasg - roedd Megan a Bryn yn yr ysgol Ddydd Gwener Groglith a Dydd Llun y Pasg.

Maen nhw'n groesawgar iawn yma - fe ddaeth 6 o'r teulu i'n cyfarfod yn y maes awyr yn Tulsa!! Fe wnaethon ni hedfan yma o Phoenix, Arizona. Fe fuon ni'n gweld y Grand Canyon oedd mor anhygoel fel y bu'n rhaid i ni fynd i'w weld ddwy waith! Roedd y caeau ar y daith i Phoenix yn llawn cactys (fel y rhai ar gartwnau!)

Fe gawsom ni wythnos yn California cyn hynny. Roedd San Diego a Los Angeles yn braf iawn. Mae Disney wedi agor parc newydd drws nesa i Disneyland o'r enw 'California Adventure' sy'n cynnwys reids gwych - ein ffefryn oedd y roller coaster "Californian Screamin'" fe fuon ni 5 gwaith i gyd ond roedd mam yn teimlo'n s芒l ar 么l yr ail dro! Nathon ni aros am noson yn Las Vegas ar y ffordd i'r Grand Canyon - roedd y goleuadau'n wych - ond mae mam a dad eisiau i ni ddweud na wnaethon nhw golli pres yno!!

Y lle cyntaf welson ni ar 么l cyrraedd America oedd Portland, Oregon. A'r cinio cyntaf gawsom ni yn nhy ffrindiau oedd brechdan PB & J sef Peanut Butter and Jelly (jam i ni!) Doedd hi mo'r frechdan orau i ni ei bwyta a dan ni di llwyddo i'w hosgoi ar 么l hynny!! Fe fuon ni i gyd yn yr ysgol yn Salem, Oregon, gan gynnwys mam hyd yn oed fe gafodd hi gadw cwmni i Gwenno yn y "kindergarten" (hi hi!) - tydi'r plant yma ddim yn cychwyn ysgol llawn amser tan maen nhw yn 6 oed. Roedd hi'n ysgol ddwyieithog - Saesneg a Sbaeneg. Doedd rhai yn y dosbarth Kindergarten ddim yn siarad Saesneg, ac roedd y gwersi yno i gyd yn gwbl ddwyieithog.

Ro'n i, Catrin, yn nosbarth Miss Britt. Mi wnes i lawer o ffrindiau newydd yn y dosbarth yma; Alexis, Cathy, Jocelyn, Yvonne, ond y ffrind gora un oedd Erika. Roeddwn yn eistedd wrth ei hymyl hi, ac fe ges i anrheg ganddi ar y diwrnod ola. Roedd o'n brofiad anhygoel. Roedden nhw'n byta eu cinio yn y dosbarth! Roedd ganddyn nhw barc chwarae yn yr ysgol, efo siglenni a sleid, ac fe ofynnodd Jocelyn gwestiwn i mi. Oes gennych chi barc chwarae yn eich hysgol chi? Na, atebais innau. Be 'dach chi'n neud, ta?!

Doedd hi'n methu credu'r peth. Roedd y gwersi yn debyg iawn i'r rhai yr ydym ni yn eu cael gartref.

Chwarae Basketball efo'i ffrindiau nath Rhys fwynhau orau a chael cinio ysgol gwahanol iawn! Does ganddyn nhw ddim cogyddion yn yr ysgol, felly salad a bwyd hawdd i'w gynhesu (e.e. hot dog) sydd ar blatiau'r plant, a chreision o'r enw nachos efo saws caws a chicken nuggets (doedd na DDIM llysiau na thatws mash!)

Dan ni ar y ffordd rwan i Efrog Newydd am 4 diwrnod cyn hedfan adra. Dan ni wedi cael mis gwych yma yn America - dan ni wedi gweld llawer ac wedi dysgu mwy. Gawn ni fynd yn 么l mis nesa plis?

"...We're doin' fine, Oklahoma! Oklahoma--O.K."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy