Mae Aled Myrddin, a enillodd wobr o 拢10,000, yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. At hynny, mae'n briod gyda merch o Fangor, sef Erin Murphy, a'r ddau bellach yn byw ym Machynlleth.
C芒n Aled, yn cael ei chanu ganddo ef ei hun, a ddenodd y nifer uchaf o bleidleisiau gan y panel arbenigwyr a hefyd gan wylwyr y rhaglen, a gafodd ei darlledu'n fyw o Ganolfan y Lido Afan, Port Talbot, ar 28 Chwefror.
Mewn cyfweliad arbennig i'r Goriad, dywed Aled, a fagwyd ym Mhorthaethwy ond sydd ar hyn o bryd yn athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Ddyfi, fod y dyfarniad wedi bod yn sioc bleserus, ac yntau'n cystadlu am y tro cyntaf.
"Roedd hi'n dipyn o sioc clywed fy mod trwodd i'r naw olaf, ac felly roedd ennill y gystadleuaeth ar y cynnig cyntaf y tu hwnt i bob disgwyl! Roeddwn i rhwng dau feddwl ynghylch cystadlu ai peidio eleni, ond dwi'n falch iawn 'mod i wedi gwneud r诺an! Dwi ddim yn si诺r iawn sawl pleidlais oedd ynddi, oherwydd roedd pleidleisiau'r panel o feirniaid yn cyfrif am 50% o'r bleidlais derfynol, ond dwi'n si诺r bod un neu ddau o ddisgyblion Ysgol Bro Ddyfi wedi ffonio!"
Daeth c芒n Aled, 'Atgofion', i'r brig o blith dros gant o ganeuon i gyd gan guro wyth yn y rownd derfynol. Bydd y g芒n yn awr yn cynrychioli Cymru yn yr 糯yl Ban-Geltaidd a gynhelir yn Donegal ddiwedd y mis hwn.
"Myfyrdod ydi'r g芒n ar y modd y mae atgofion am bobl neu ddigwyddiadau penodol yn pylu gydag amser, a phwysigrwydd cofnodi'r atgofion hyn mewn rhyw ffordd er mwyn sicrhau eu parhad," meddai.
Mae Aled wedi hen arfer canu - mae'n aelod o'r gr诺p Cristnogol Manna, ac enillodd ar yr Unawd Cerdd Dant rhwng 19 a 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd yn 2003.
O ran dylanwadau cerddorol, dywed fod unrhyw g芒n sydd ag alaw dda yn apelio ato. Ond ymhlith cerddorion penodol sydd wedi dylanwadu arno y mae John Mayer, Sting a Newton Faulkner.
Ac yntau am wario'r arian ar gyfrifiadur newydd ar gyfer cyfansoddi, a rhoi'r gweddill 'yn y banc', dywed Aled fod ennill cystadleuaeth fel hon hefyd yn sbardun i gyfansoddi mwy.
O ran canu, y mae newydd recordio dwy raglen ar gyfer Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a fydd yn cael eu darlledu'n ddiweddarach yn y flwyddyn.