Roedd J. G. D. yn fardd y plant - mae Fflat Huw Puw a Gwen a Mair ac Elin a Bwrw Glaw a Si么n Corn a llawer o'i gerddi yn fyw heddiw. Roedd hefyd yn fardd y m么r a cheir testun llawer o'i shantis - caneuon llongwyr yr hen longau hwylio. Dyma ydi Rowndio'r Horn a Hwre am Gei Caernarfon. Roedd o hefyd yn fardd pen Llyn: mae rhai o'i gerddi gorau ar gyfer oedolion yn datgan ei edmygedd o'r hen gymdeithas yn Edern - pobl fel Richard Morris Roberts, y melinydd ac athro ysgol J. G.D. , ac Ann, ei wraig. Yn y llyfr hardd hwn y mae yna nifer mawr o ddarluniau, rhai yn rhai prin o gasgliad personol y teulu. Ceir hefyd destun a cherddoriaeth llawer o gerddi'r bardd. Y mae'r elfennau hyn rhoi gwerth mawr ar y llyfr. Cledwyn Jones oedd yr un delfrydol i ysgrifennu'r gyfrol. Mae Cledwyn yn hanu o Dal y Sarn yn Nyffryn Nantlle ac wedi'i drwytho ei hun yn hanes diweddar yr ardal. Mae rhai o wreiddiau J. G. D. yntau yn yr un fro - wedi'r cwbl yr oedd Angharad Jones, y bardd a'r delynores, a'r Parchedig John Jones, Tal y Sam, ymysg ei hynafiaid. Mae gan Gledwyn hefyd ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth - cerddoriaeth gorawl eglwysig ac emynau a chaneuon gwerin. Fe gafodd flas mawr ar y gwaith o ddethol y caneuon ar gyfer y gyfrol. Fe gofir am J. G. D. heddiw fel bardd y plant. Mi oedd hi'n hollol addas mai yn Ysgol Edern yn Llyn - ysgol lle mae'r plant i gyd yn siarad Cymraeg yn iaith gyntaf - y cafodd y llyfr ei gyhoeddi nos Wener, 21 Tachwedd. Roedd hi'n noson fythgofiadwy. Y plant oedd yn arwain yr holl weithgareddau, bob un ohonyn nhw wedi'i wisgo mewn dillad llongwr. Nhw oedd yn dweud yr hanes, nhw oedd yn canu'r caneuon. Y Neuadd yn orlawn o blant a phobl o bob oes. Gwenan Jones, Pennaeth yr Ysgol a'r staff dysgu oedd wedi trefnu'r cyfan a hyfforddi'r plant. Roedd Cymdeithas Rhieni a Ffrindiau'r Ysgol wedi addurno'r Neuadd ac wedi arlwyo. Noson hapus, hapus. Diolch diffuant i bawb. Nid rhyfedd bod gw锚n fawr ar wyneb Cledwyn Jones. Roedd o wedi dotio ar y plant ac wrth ei fodd yn gweld y llyfr yn dod yn fyw ar lwyfan Ysgol Edern. Mi fu Cledwyn wrthi'n arwyddo trigain, a mwy o gop茂au o'r gyfrol a Meriel Jones hithau wrth ei benelin yn siarad efo pawb yn ei dro. Un nodyn bach hapus arall: mae Gwen a Mair ac Elin i gyd yn fyw heddiw, y tair mewn oedran teg. Ac yr oedd eu brawd - Gwion bach - yn y cyfarfod yn Edern yn gweld cerddi ei dad yn fyw ar wefusau Cymry heddiw. Cledwyn Jones, Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw, Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 拢15
|