Ond fe aeth deunaw o'r Felinheli - pymtheg yn blant ac ieuenctid - gam ymhellach nag amryw yn eu hymdrech i godi arian i leddfu peth ar drallod y dioddefwyr. Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn penderfynodd y deunaw neidio i'r Fenai yn ymyl y Gardd F么n. Roedd pymtheg yn amrywio o ran oedran rhwng naw a phymtheg a mentrodd tri oedolyn i'w canlyn. Syniad dau o'r ieuenctid - Ifan Emyr a Carwyn Dafydd oedd nofio yn n诺r y Fenai ar ddydd Calan i godi arian i'w anfon i Dde Ddwyrain Asia. "Roeddan nhw wedi meddwl nofio noson ola'r flwyddyn ond mi gawson ni bersw芒d arnyn nhw i aros tan y diwrnod wedyn," eglurodd Emyr, tad Ifan. "Roedd hi'n wynt a glaw ond wnaeth hynny mo'u rhwystro. Roeddan nhw'n cwyno ei bod yn oer ofnadwy wedi dod allan o'r d诺r." Apelio am gyfraniad o gwmpas y pentref a wnaed wedyn. Casglwyd y cannoedd cyntaf ar ddydd Calan ei hun a phan oedd y Goriad yn mynd i'w wely roedd y gronfa wedi cyrraedd dros 拢400. Bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i Gronfa'r Trychinebau - y DEC.
|