Roedd tua 300 o gystadleuwyr o Gymru, Lloegr; Yr Alban a'r Iwerddon yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ieuenctid Brydeinig ddiwedd mis Mawrth.
Bu i'r saith o Fangor wneud yn arbennig o dda, a daeth Owain Llyr Griffiths a Dan Mapatac o Fangor yn gyntaf yn y gystadleuaeth.
Roedd Dan, sy'n byw ym Maesgeirchen, ac Owain sy'n dod o Drefonwys wrth eu boddau bod yn fuddugol unwaith eto yn y gystadleuaeth am yr ail flynedd yn olynol.
Mae'r ddau yn hyfforddi gyda Chlwb Karate 'Seki Ryu Zan' sydd yn cyfarfod yn y Coleg Normal, Bangor. Am ragor o wybodaeth ynglyn a'r Clwb, edrychwch ar eu gwefan: www.karatebangor.com
|