成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Y t卯m dan 13 oed. CPD Y Felinheli
Ionawr 2006
Cegin newydd i'r t卯m sy'n colli gemau
Mae'r Clwb yn mynd o nerth i nerth, mae'n wir, ond nid yw'r canlyniadau ar y cae yn adlewyrchu hynny.
Collwyd pob g锚m ym mis Hydref, cyn i'r gaeaf ddechrau dangos ei ddannedd. Efallai fod y tywydd wedi bod yn drugaredd i ddweud y gwir. Rhoi cyfle i ail-drefnu a ballu. Ac yn wir, ar ddydd Sadwrn yng nghanol Tachwedd daeth buddug颅oliaeth o'r diwedd. Y cyntaf ers diwrnod cyntaf y tymor, ac yn ddigon rhyfedd yn erbyn Bermo unwaith eto. Ennill 1-0 oddi cartref yng Nghwpan Her Gogledd Cymru. A tydi Bermo ddim yn dim gwael chwaith. Bechod na fasa hi yn gem Gynghrair medd rhai, ond ta waeth, buddugoliaeth hir ddisgwyliedig.

Colli 1-6 yn erbyn ail d卯m Porthmadog yn Y Traeth ddechrau Rhagfyr, ond Felin oedd y t卯m gorau o'r ddau yn yr hanner cyntaf, er i Port sgorio yn yr eiliadau olaf i'w gwneud yn 2-1 hanner amser. Methodd y dyfarnwr roi penalti i Felin yn gynnar yn yr ail hanner, ac ar 么l i Port sgorio i'w gwneud yn 3颅 - 1, nid oedd llawer o si芒p dod yn 么l ar Felin.

Segur fu Felin weddill Rhagfyr, gan edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. I gael Clwb p锚l-droed da, rhaid cael pethau yn iawn oddi ar y cae yn ogystal. Ac mae llawer o amser wedi ei wario yng nghae Seilo yn ddiweddar yn gwella'r cyfleusterau. Mae cegin newydd sbon yno, mi fasa'n medru pasio fel show-room i'r noddwyr Kitchen Medic i ddweud y gwir. Ac mae'r ddau hen dug-out wedi cael eu chwalu ac un newydd sbon wedi'i osod yn ei le. Un yn lle dau? Wel, toedd Felin byth yn defnyddio un nhw. Mae'n well gan Bonc a hogia Felin sefyll yn y gwynt a'r glaw yr ochor arall i'r cae. Hen draddodiad mae'n debyg. Mae llawer o waith eto i'w wneud, felly os ydi rhywun yn ffans茂o gwneud rhywbeth gwerth chweil dros b锚l-颅droed a chymuned leol, hwn 'di'r cyfle!'

Gan fod gwaith i'w gwblhau ar y cae, nid oedd Felin (t卯m cyntaf, dan 15 oed, dan 13 oed, dan 7 oed) yn chwarae gartref tan y flwyddyn newydd.

Mae'r t卯m dan 15 oed, dan arweiniad Gareth 'Jo' Griffiths, wedi chwarae pump ac wedi ennill pump, gan sgorio 24 gol. Mae sgwad cryf o 18 chwaraewr gan gynnwys Sian Mererid, sydd newydd gael caniat芒d gan y Gynghrair i chwarae yn nh卯m yr hogiau. Tydi hyn ddim yn newydd da i weddill timau'r Gynghrair! Sgoriodd hi ddwy g么l ar ei 'debiw' yn erbyn Nantlle Vale. 颅

Alun Meirion yw rheolwr y t卯m dan 13 oed, a Phil Stead sydd yn cadw trefn ar y t卯m dan 7 oed. Bydd mwy am y rhain yn rhifyn nesa Goriad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy