Rhieni Ysgol y Garnedd sydd wedi hel y ddeiseb. Yn 么l un o'r trefnwyr, Gwyn Roberts o Ddeiniolen, sydd 芒 merch 4 oed yn yr ysgol, "Mae canran uchel o rieni'r Garnedd yn dod 芒'u plant i'r ysgol mewn car, a phawb yn cyrraedd yr un pryd. Rydan ni wedi gweld plant yn cerdded tu 么l i geir sydd wedi parcio, a cheir yn bacio n么l. Mae rhai near misses wedi bod am bod y ffordd at fynedfa'r ysgol mor gul; a s么n bod ceir wedi taro'i gilydd yn y gorffennol". Ym Mhwllheli fis Tachwedd bu farw Huw Emyr Roberts, 2 oed, wedi i gar daro'i bram yn Ysgol Cymerau. Ddyddiau wedyn cwynodd Clara Owen bod car bron a tharo un o'i phlant hi, Tamara, 2 oed ger Ysgol Cae Top, Bangor. Ac mae pryder am ddiogelwch ger nifer o Ysgolion Sir. Casglwyd dros gant o enwau ar ddeiseb rhieni'r Garnedd a'i rhoi i Gyngor Gwynedd. Dywedodd llefarydd o'r Cyngor wrth y Goriad, "Mae'r sefyllfa'n amrywio o ysgol i ysgol. Mae'r Cyngor o'r farn y dylid ymateb yn synhwyrol drwy wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n digwydd ar dir ysgol a'r anhawsterau parcio tu allan i ffiniau ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd. Y bwriad yw cynnal asesiad risg tu allan i ffiniau'r ysgolion. Felly bydd y Cyngor yn delio gydag unrhyw gwynion a deisebau drwy baratoi adroddiad ar bob sefyllfa wahanol". Ond mae rhieni am weld gweithredu buan i sicrhau diogelwch y plant. Yn 么l Gwyn Roberts "Weithiau mae'n anhrefn llwyr wrth y Garnedd, a'r sefyllfa'n beryglus ofnadwy."
|