Er iddo adael Ysgol Tryfan yn ystod yr haf wedi cwblhau cwrs lefel A nid oedd byd llyfrau yn apelio. Erbyn hyn mae wedi ymuno a'i frawd i fod yn bartner yn ei waith coed yn Y Faenol. Dyna a ddewisodd Llew ei wneud hefyd bum mlynedd yn 么l. Aeth ef yn syth o'r ysgol i'r Faenol i ddechrau dysgu sut i adfer hen goed. Yn yr ysgol roedd wedi cymryd diddordeb mawr mewn gwaith coed a cherfio coed yn arbennig. Yna bu'n dilyn cwrs NVQ a chwrs gradd Cadwraeth a Threftadaeth gan astudio dodrefn. "Fel mae pobl yn gwybod mae'n teulu ni yn rhai academaidd ond rydan ni'n dau wedi gadael hynny i'n brawd Dafydd!", eglurodd Llew yn gellweirus.
Dechreuodd ei fusnes gwneud dodrefn ei hun gan rentu adeiladau yn Y Faenol. Yna dri mis yn 么l ymunodd Gruffudd ag ef i ddechrau busnes Coed Menai. Roedd hynny mewn pryd ar gyfer dangos eu gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yng Ng诺yl Bryn Terfel. "Roedd hynny'n llwyddiannus iawn. Mae'r Cymry yn barod i gefnogi pobol ifanc lleol, dyna be' 'dan ni wedi sylwi," meddai Llew. Am ddwy flynedd bydd Gruffudd yn dilyn cwrs gwaith mainc yng Ngholeg Menai yn ogystal 芒 bod yn rhan o'r busnes. Ond bydd ei frawd wrth law bob amser i gynnig cyngor ymarferol yn y gweithdy, boed wrth wneud crud, bwrdd neu gegin. "Rydan ni'n dueddol o ateb gofynion cwsmer yn hytrach na gwneud dodrefn i'w dangos, dyna pam 'does 'na fawr o stoc yma," esboniodd Llew. "Ac mae'n dibynnu ar y cwsmer pa bren fyddwn ni'n ei ddefnyddio."
Mae'n ddyddiau cynnar i'r ddau frawd o Ffordd y Coleg. Ychydig iawn o gymorth ariannol y maent wedi llwyddo i'w gael hyd yma o gyfeiriad sefydliadau'r Llywodraeth a'r Cynghorau ond nid yw hynny wedi torri eu calon. "Mae gynnon ni gynllun busnes tair blynedd ac erbyn hynny rydan ni'n gobeithio y bydd pethau wedi sefydlu'n iawn."
|