Roedd Gwion Hallam, Llion Darbyshire, Peredur Lynch yn nh卯m Gari Wyn - a'r gwrthwynebwyr oedd Iwan Llwyd, Lyn Davies, Emlyn Gomer a Geraint Lovgreen. Arwel 'Pod' Roberts oedd yn 'cadw trefn'! Roedd t卯m Gari Wyn yn fuddugol o drwch blewyn a bu'r gynulleidfa hefyd yn brysur yn cyfansoddi limrigau doniol. Dydd Sadwrn bu cystadleuaeth Golff ym Mangor - enillydd tlws Dafydd Vernon oedd John Pwd Owen a'i d卯m; gyda'r hwyr bu'r rhai ieuengaf wrth eu bodd gyda'r wreslo. Sul - Ras Beics Eryri a Boules (naws Ffrengig oedd i'r 诺yl eleni) ar y traeth cyn cyngerdd gyda'r nos yn yr eglwys. C么r y Brythoniaid dan arweiniad John Eifion oedd yn cymryd rhan, Ceri a Lara (y ddwy o'r Felinheli) a John Eifion yn unawdydd. Yr oedd y Cyngerdd yn ardderchog a'r eglwys wedi ei haddurno gyda blodau bendigedig, gyda themau o emyn donau. Y g诺r gwadd oedd Dr Keith Hughes a soniodd am atgofion hapus iawn am y 'Carnifal' pan oedd o'n blentyn. Ond roedd ganddo un atgof yn dal i roi hunlle iddo, meddai, a hynny oedd cofio Al Pens mewn coets babi, efo bonat a dummy a mwstash mawr! Mae'r Cwis ar nos Fawrth yn hen ffefryn a bu pawb heini yn rhedeg Ras y Faenol (1 Ok) nos Fercher a enillwyd gan Alun Vaughan (yn awr o'r Felin). Prin roedd o wedi cychwyn nag oedd yn ei 么l!! Yn ddiweddar roedd wedi cynrychioli Cymru mewn ras yn Ffrainc - a phawb arall yn mwynhau Sioe Ffasiynau a drefnwyd gan Margaret (siop Baffino ). Cafwyd Sioe Ffasiynau a Dudley yn coginio paella gyda chynnyrch Afon Menai ac roedd yn flasus iawn. Dydd Iau, yn dilyn taith yr henoed roedd Helfa Drysor. A bore dydd Gwener, Jonsi oedd yn deffro pawb gan ddarlledu yn fyw o'r Garddfon. Roedd digon o adloniant fel arfer dydd Sadwrn yn y Carnifal a'r noson fawr yn y babell gyda Los Amigos yn canu hen ffefrynnau. Daeth yr 诺yl i ben gyda Chymanfa Ganu er budd yr Eisteddfod Genedlaethol.
|