成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Hunydd Andrews (ail o'r chwith) gyda'i chwaer, Tegau, ei chefnder Fionntan a'i gariad o, Donna. Rhwng Belfast a Bangor
Mai 2005
Hanes Hunydd Andrews
Pan ddes i Fangor i'r Coleg a mynd i fyw yn Neuadd Breswyl John Morris-Jones, doedd llawer o'r myfyrwyr ddim yn credu fy mod i'n dod o Iwerddon.
Dyma'r math o sgwrs yr oeddwn i'n ei chael bob hyn a hyn:

"O ble wyt ti'n dod?"
"O Belfast."
"Ha ha - o ble wyt ti'n dod go iawn?"
"O Belfast."
"O, wel, o ble wyt ti'n dod yn wreiddiol?"
"O Belfast."
"Wel, ble buest ti'n byw wedyn?"
"Yn Belfast."

Roedd y cwestiynau a ddilynai wedyn yn amrywio o "Wnei di siarad ychydig bach o Saesneg, te?" i "Wyt ti'n nabod pobl yn yr IRA?" Yr ateb i'r cwestiwn olaf yw "Na, diolch byth!", ond mae'n si诺r i'r sefyllfa wleidyddol yng Ngog1edd Iwerddon effeithio ar fy mywyd wrth i mi dyfu.

Ces i fy ngeni a'm magu yn Belfast, a b没m i'n byw yno am ddeunaw mlynedd. Ces i fy magu'n ddwyieithog, yn siarad Cymraeg gyda fy mam a Gwyddeleg gyda fy nhad. Dysgais i Saesneg yn ddiweddarach, wrth chwarae gyda phlant Saesneg eu hiaith yn yr Ysgol Gynradd. Felly, rwy'n siarad Gwyddeleg a Saesneg gydag acen Gogledd Iwerddon a Chymraeg gydag acen de Cymru (gan mai un o Abertawe yw fy mam).

Roeddwn i'n ymwybodol o oedran ifanc iawn fod yn rhaid i mi fod yn ofalus. Yn ofalus rhag bomiau mewn mannau cyhoeddus, ac yn ofalus rhag pobl fyddai'n ymosod arnaf i neu ar fy nheulu oherwydd ein cefndir crefyddol.

Pan ddes i Gymru yn ddeunaw oed roedd yn braf iawn byw mewn cymdeithas lle nad oedd angen poeni am y fath sefyllfa wleidyddol. Roeddwn i wedi treulio llawer o amser ar wyliau yng Nghymru cyn dod i'r Coleg, ac roeddwn i'n falch o'r cyfle i ddod i fyw yma a dod i adnabod y wlad a'i phobl yn well.

Dilynais gwrs BA ac MA mewn cerddoriaeth yn y Brifysgol, ac wedyn treuliais flwyddyn yn Llydaw yn dysgu Saesneg mewn Ysgol Uwchradd. Wnes i ddim aros draw yn hir. Dod yn 么l i Fangor i ddilyn cwrs ymarfer dysgu fu fy hanes, a ches i gyfle i dreulio cyfnod yn Ysgol Hirael ar brofiad dysgu. Yn dilyn hynny dechreuais ar swydd yn y Brifysgol yn gweithio ar brosiect arloesol i greu llyfr ymadroddion a geiriadur Cymraeg Gwyddeleg ar-lein.

Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru, Bangor, a Choleg Prifysgol Dulyn, ac mae'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Bwriad y prosiect yw helpu'r Cymry a'r Gwyddelod i ddysgu ieithoedd ei gilydd, a dysgu mwy am wledydd ei gilydd, heb orfod gwneud hynny trwy gyfrwng y Saesneg.

Rwy' n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y gwaith hwn, gan hybu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad rwy'n perthyn iddyn nhw. Efallai yn y dyfodol na fydd hi mor anghyffredin i bobl siarad Gwyddeleg a Chymraeg gydag acenion gwahanol!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy