成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Goriad
Gwennant Pyrs Portread o Gwennant Pyrs
Chwefror 2007
Un o gantorion mwya' Penrhos heb os yw Gwennant Pyrs. Mae'r Arweinydd c么r ac enillydd C芒n i Gymru yn byw ar Ffordd Crwys gyda'i phriod Gareth ers bron i ugain mlynedd bellach.
Daw Gwennant yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ac mae'n mwynhau dychwelyd i'w tharddle i gael llond nosdrul o wynt yr Aran a gweld hen gyfeillion a theulu.

Mae'r gerddoriaeth yn y gwaed, gyda Gwennant yn ferch i D. P. Jones sy'n aelod o G么r Godre'r Aran ers dros hanner canrif. Ac mae ganddi ddwy ferch ei hun - Mared Haf sy'n ddeunaw a Gwenllian Fflur sy'n naw.

Llwydda Gwennant i droi ei chariad at gerddoriaeth yn fara menyn. Hi yw Pennaeth Adran Gerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Cyn hynny bu'n teithio ysgolion Gwynedd fel athrawes y delyn. Gwennant yw Arweinydd C么r Seiriol, ac yma mae'n s么n am gychwyn y c么r hynod boblogaidd: "Ffurfiwyd Parti Seiriol yn yr wythdegau cynnar o ganlyniad i griw o ffrindiau aros i weithio a byw ym Mangor ar 么l gadael y Brifysgol. Tyfodd y parti yn G么r Seiriol yn 1991. Y flwyddyn honno enillodd y c么r y wobr gyntaf ar gystadleuaeth y C么r Cerdd Dant yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn.

"Ers hynny, mae'r c么r wedi ennill 7 gwaith ar gystadleuaeth y C么r Cerdd Dant a theirgwaith ar gystadleuaeth y C么r Merched yn y Genedlaethol. Rydym wedi cystadlu yn yr 糯yl Gerdd Dant yn ogystal dros yr un cyfnod o flynyddoedd ac wedi ennill droeon yno hefyd. Mae'r C么r wedi rhyddhau pedair cryno ddisg ers ei ffurfio; mae'r gerddoriaeth arnynt yn amrywio o Gerdd Dant i Glasurol i weithiau comisiwn gan gyfansoddwyr o Gymru megis Karl Jenkins, Gareth Glyn a Robat Arwyn."

Prysurdeb diwyd yw un o nodweddion cymeriad Gwennant. Ar y foment mae'n trefnu gosodiadau cerdd dant i nifer o blant a phobol ifanc ar gyfer Eisteddfod Yr Urdd.

Yn wir, cerdd dant yw ei hoff fath o gerddoriaeth. Ond nid oes ffiniau i'w phaled seinyddol - mae popeth o Fozart i Eva Cassidy yn atseinio drwy'r t欧. Ar hyn o bryd mae Gwenant wrthi'n ymarfer Sioe Gerdd gyda disgyblion Ysgol David Hughes 'Camp a Rhemp' a fydd yn cael ei pherfformio fis Chwefror.

Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gwenant, a'r sgript gan ei chyfeillion a'i chydweithwyr Alwen Derbyshire a Meleri Roberts.

Dyma'r dair a enillodd y wobr 'G芒n i Gymru' ym 1992.

Ar gyfer y rhifyn nesaf, mae Gwennant Pyrs wedi dewis Alwen Derbyshire o'r Felinheli. Felly rydym yn chwilio am rywun diddorol ym Mhenrhosgarnedd i'w bortreadu erbyn y rhifyn nesaf. Croeso cynnes i chi gysylltu efo awgrymiadau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy