成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Elen Evans Gwyl Gerdd Dant Gofiadwy
Tachwedd 2003
Ar ddydd Sadwrn Tachwedd y cyntaf heidiodd cystadleuwyr o bob rhan o Gymru i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth gogyfer 芒'r Wyl Gerdd Dant a gynhaliwyd yno.

Dyma'r pumed gwaith i'r wyl ddod i'r dref. Gwyl lwyddiannus arall oedd y farn gyffredinol ymhlith yr holl gefnogwyr selog a chafwyd canmoliaeth uchel i'r safle fel lle delfrydol ac i hynawsedd y stiwardiaid.

Yr uchafbwynt yn ddiddadl oedd cystadleuaeth y corau cerdd Dant a oedd yn cloi'r wyl. Tynnodd y sylwebyddion ar y teledu sylw at y ffaith bod Aberystwyth yn llwyddo dro ar 么l tro i osod darnau heriol sy'n sbarduno'r gosodwyr a'r perfformwyr. Gallwn ni fel ardal ymhyfrydu mai darn o waith Dr Rhiannon Ifans Penrhyn-coch a roddodd wefr i'r gynulleidfa eleni. Defnyddiodd Cantre'r Gwaelod fel thema i'r darn o ryddiaith a chlywyd geiriau C芒n Gwyddno'n atseinio o gwmpas y Neuadd Fawr:

"Mae'r tonnau dros ein pennau! Ffowch i'r mynydd!'
'Rhy hwyr!
'Dal fi! Tyn fl!'
Seithenyn! Y rhuglyn meddw!'
Ochenaid Gwyddno Garanhir
Pan droes y don dros ei dir:
'Rhagluniaeth drom! Colli cyffyrddiad tir a theulu'...
Ond ar gyda'r nos dawel braf, mi welwch chi'r m么r yn llonydd, ... ac os sefwch chi'n llonydd, llonydd, efallai y clowch chi glychau'n canu dan y dwr."

C么r Pantycelyn oedd yn fuddugol a braf gweld bod rhai myfyrwyr o fro'r Tincer yn aelodau o'r c么r sy'n cynnwys rhyw gant o leisiau. Roedd yn hyfryd gweld bod c么r lleol arall, sef C么r ABC, o dan arweinyddiaeth Angharad Fychan wedi mentro i fyd cerdd dant ac wedi rhoi cyflwyniad canmoladwy iawn. Roedd nifer o aelodau bro'r Tincer yng ngh么r ABC ac yng ngh么r Cantre'r Gwaelod a fu'n cystadlu.

Mae'r wyl Gerdd Dant yn amlwg yn hybu gweithgaredd lleol ac roedd hi'n hyfryd gweld parti o Ysgol Penrhyn-coch ar y lwyfan ddwywaith gan ennill y drydedd wobr am y Grwp Llefaru a'r Parti Alawon Gwerin, Oedran Cynradd. Cafodd Gregory Vearey-Roberts o Fryncastell wyl brysur a llwyddiannus iawn hefyd. Llwyddodd i ennill y wobr gyntaf ar yr Unawd Cerdd Dant o dan 21 oed a'r ail wobr gydag Iwan Griffiths o Ben-parc, Aberteifi, ar y ddeuawd Cerdd Dant. Roedd hefyd yn arwain Parti Gwerin Merched Aelwyd Pantycelyn.

Roedd yr wyl yn wyl arbennig i rai o drigolion Blaendd么l, Bow Street gan mai yno mae Eddie a Bethan Jones yn ogystal a'u cymydog Alan Wynne Jones yn byw. Cafodd y tri eu hanrhydeddu am eu cyfraniad i fyd cerdd ac i ddawnsio gwerin drwy gael eu dewis i fod yn Llywyddion Anrhydeddus yr wyl.

Ar ran darllenwyr Y Tincer hoffem longyfarch yn fawr y tri. Braint cael llongyfarch Eddie yn ogystal am ennill y wobr gyntaf ac ail wobr am greu dawns Gymreig ei naws 'Hwyr ddawns Aberystwyth'.

Braf oedd gweld Caryl Ebenezer Thomas wedi dychwelyd yn 么l i'nplith, nid i gystadlu y tro hwn, ond i feirniadu. Tybed beth oedd ei thad yn meddwl o feirniadaeth y C么r Alawon Gwerin?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy