成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Cefin Evans Fferm Ffactor 2009
Ionawr 2010
Hanes Cefin Evans, a ddaeth yn ail yng ngystadleuaeth Fferm Ffactor 2009.

Rhaid bod ffigyrau gwylio Fferm Ffactor ar deledu'r fro, wedi neidio i fyny pan gyrhaeddodd Cefin Evans Rhiwarthen Isaf y brig, (Cefin Cwmwythig fel yr adnabyddir) yn un o dri ymgeisydd yn y prawf terfynol i ennill y teitl Ffermwr Gorau Cymru.

Dechreuwyd y daith yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ble y cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr.

Dewiswyd deg ohonynt i gwrdd yng Nglynllifon, Caernarfon ym mis Awst, i ddechrau ar y gwahanol dasgau o wythnos i wythnos. Y beirniaid oedd yr Athro Wynne Jones o Goleg Harper Adams, a'r enwog Mr Dai Jones Llanilar, pryd yr aseswyd a marciwyd pob unigolyn ar 么l pob tasg.

Roedd y tasgau yn amrywiol - cael mochyn i mewn i'w gwt, ateb cwestiynau yn yr ysgubor, cydweithio mewn grwpiau i hongian g芒t, gyrru tractor, torri cig oen, llifio coed, dangos dawn marchnata, hel a didoli defaid, adnabod y bridiau, cneifio, d么sio gwartheg ac aredig gyda cheffylau i enwi rhai ohonynt.

Roedd yr ymgeiswyr a ddewisiwyd o wahanol oedrannau, yn fechgyn a merched.

Amlygwyd y gwahaniaeth rhyngddynt o wythnos i wythnos wrth iddynt gwblhau y tasgau, pryd y galluogwyd y beirniaid i ddewis pa gystadleuydd oedd i roi allweddi yr ISUZU (cerbyd 4x4 - gwobr yr enillydd) yn 么l, a gadael Fferm Ffactor am byth! (chwedl Daloni Metcalfe)

Doedd neb ohonynt am fod allan yr wythnos gyntaf, a chawsant syrpreis pan ddywedwyd wrthynt fod pawb yn saff yr wythnos hynny.

Aeth yr wythnosau a'r tasgau yn eu blaen, a Cefin yn dal yn y r芒s. Teimlwyd fod tasg y cynllun busness wedi bod yn anodd iawn.

Er i'r tri oedd ar 么l weithio yn dda gyda'i gilydd, roedd gaddynt dair barn wahanol a buont yn anghytuno am oriau maith.

Bu yn dipyn o straen, ond roedd yr arbenigwyr wedi eu plesio.

Penderfynwyd fod y tri i fynd ymlaen i'r Cynulliad am y dasg olaf, i annerch Elin Jones Gweinidog Materion Gwledig. Gwnaeth y tri yn rhagorol iawn, ond dim ond un ISUZU oedd, ac un enillydd.

Aled Rees o ardal Aberteifi oedd hwnnw, Enillydd Fferm Ffactor 2009.

Ac yn glos wrth ei sawdl, ein Cefin ni! Perfformiad gwych Cef a llongyfarchiadau mawr i ti.

Dywedodd Cefin yn ei orchfygiad, fod Aled yn haeddu y fuddugoliaeth, chwarae teg iddo. Dywedodd hefyd fod y cyfan wedi bod yn brofiad anhygoel, roedd pawb wedi dysgu llawer, wedi cael llawer o sbort ac wedi gwneud ffrindiau newydd.

Bu y rhaglen yn addysgiadol i ninnau y gwylwyr hefyd.

Dysgasom fod raid i ffermwr droi ei law at lawer o dasgau, i fod yn fecanic yn ogystal a milfeddyg.

Un o'r pethau doniol ddywedodd Cefin yn ystod y rhaglen, pan gafodd ychydig o anhawster adnabod bridiau y defaid oedd: O ble death rhain, o'r lleuad?

Pob dymuniad da i Cefin Evans a' i deulu yn y dyfodol, a diolch am ein diddori am lawer wythnos ar ddiwedd 2009.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy