成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Dewi Huw Owen Coron i Dewi Huw
Mehefin 2008
Dewi Huw Owen yn s么n am y profiad o ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy.

"Roedd y profiad o ennill Coron Eisteddfod yr Urdd yn Eisteddfod Sir Conwy eleni, a hynny ar fy nghynnig cyntaf, yn un bythgofiadwy. B没m am oddeutu pythefnos yn celu'r gyfrinach oddi wrth ymron i bawb ag eithrio fy rhieni, fy nghariad, ac un cyfaill agos - afraid dweud y bu'r pythefnos hwnnw, yn enwedig sioc a syndod ei ddechrau, a nerfau disgwylgar ei ddiwedd, yn un hynod gyffrous!

Rhaid oedd in-d, tan gyngor prif swyddogion yr Urdd, ymbresenoli yn y pafiliwn tuag awr cyn y Coroni, ac fel y mae fy nghariad o hyd yn tystiolaethu, yr oeddwn, wrth wylio'r cystadlaethau llwyfan yn y cyfnod byr hwnnw yn union cyn cychwyn y seremoni, yn llawn o ryw blethiad rhyfedd o densiwn pryderus ar y naill law, a brwdfrydedd cyffrous ar y Hall. Fodd bynnag, gyda dechrau gweithgareddau'r Coroni diflannodd y pryder hwnnw ac fe'm maglwyd gan gyffro'r digwyddiad am weddill y dydd.

Mwynheais y seremoni ei hun yn fawr iawn, o orfoledd yr orymdaith o'm sedd i r llwyfan i fwrlwm a hwyl y dawnsio. Hynod o beth oedd gweld addasiad o'm gwaith ar wal fideo'r llwyfan, a chlywed geiriau a brawddegau mor gyfarwydd yn cael eu hadrodd, eu hactio a'u dehongli mewn dull mor gelfydd.

Yn ogystal, megis yn seremoni'r Cadeirio ar ddydd Iau'r Eisteddfod gyda Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd, profais wefr nas gellir mo'i lwyr ddisgrifio mewn geiriau, o glywed beimiaid a chanddynt y fath ddawn lenyddol ag Eigra Lewis Roberts a Chefin Roberts yn pwyso a mesur fy ngwaith.

Fel nodais with siarad a'r wasg yn dilyn diweddglo'r seremoni, mae presenoldeb y fath feimiaid yn anochel yn denu cystadleuwyr, ac yn ein hannog i roi o'n gorau with gystadlu.

Bu gweddffl y diwrnod yn un rhuthr o gyfweliadau a chamerau fflach, wrth imi gael fy hebrwng o fan i fan ar hyd y maes i drafod fy llwyddiant yng nghystadleuaeth y Goron, ynghyd 芒'r gweithiau llenyddol oedd wrth ei wraidd, gyda aelodau'r wasg.

Ymhen hir a hwyr, daeth diwedd i'w cwestiynau, a dychwelsom, gyda'r goron yn ei blwch, i'r gwesty yn Llandudno lle'r oeddem yn aros fel teulu'r noswaith honno, yn dra blinedig.

Ond er yr holl finder, yr oedd y w锚n dawel, ddedwydd honno, oedd wedi ffurfio'n raddol ar hyd fy wyneb yn ystod y dydd, bellach wedi tyfu i w llawnder, ac wedi ymgartrefu ar hyd fy ngruddiau. Rhodiais ar hyd promen芒d Llandudno yng nghwmni fy nghariad gan wylio'r haul yn machlud, a gwenais, fel nas gwenais erioed o'r blaen."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy