成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da
Ebrill 2010
Hanes lawnsiad cyfrol Wynne Melville Jones - Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da.

Nos Iau, y 25ain o Fawrth, ac roedd gwesty'r Marine yn llawn o leisiau llawen o bob oed, wedi dod at ei gilydd yn unig swydd i groesawu cyfrol Wynne Melville Jones (Wyn Mel) - Y Fi a Mistar Urdd a'r Cwmni Da (Y Lolfa).

Dan arweiniad Sulwyn Thomas fe gawson ni ragflas o gynnwys y gyfrol drwy gyfrwng pytiau o sgyrsiau bywiog gan nifer fawr o bobl fu'n cyd-deithio a chydweithio 芒 Wynne, darllenodd Lowri Steffan ddarnau wedi eu dethol o'r testun ac fe ganodd c么r ABC g芒n Mistar Urdd.

Roedd Mistar Urdd ei hun hefyd yn bresennol wrth reswm.

Roedd y cyfan wedi ei lwyfanu'n slic fel sy'n gweddu i gwmni PR y mae ansawdd a steil cyfl wyniadau yn anadl einioes iddo.

Wedyn dyma droi at y llyfr.

Doedd yr hyn glywson ni yn y cyfarfod lansio am weithgarwch a dyfeisgarwch Wyn Mel yn ddim o'i gymharu 芒'r hyn sydd yn y llyfr.

Dyma bortread o ddyn sydd wedi byw ei oes yn cyfl awni'r hyn na fyddai'r rhelyw ond yn dechrau breuddwydio am ei wneud i draddodi'r dreftadaeth genedlaethol i'r cenedlaethau sy'n dilyn.

Cawn ein harwain gyda pharch disentiment, cadarnhaol, o'i ddechreuad yn fab y Mans yn Nhregaron ar adeg pan oedd y capel yn cyfrif yn y gymdeithas, - yn ddiddorol iawn mae'n gweld tebygrwydd rhwng y weinidogaeth a PR, heb fanylu'n ormodol ar y syniad!

Drwy ei gyfnod yn fyfyriwr celf yn Abertawe a Choleg y Drindod Caerfyrddin, wedyn yn gweithio yn drefnydd yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin, wedyn yn Swyddog Cyhoeddusrwydd a Gwerthiant yr Urdd yn genedlaethol, - dyna pryd y creodd yr anfarwol Fistar Urdd - hyd at y cyfnod pan fentrodd adael diogelwch y corff mawr i sefydlu Cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Strata - StrataMatrix bellach - sy'n gorff mawr ei hun erbyn hyn.

Drwy'r cyfan i gyd yr hyn oedd, ac sydd, yn ei yrru oedd ei ffyddlondeb i Gymru, i Gyd-ddyn ac i Grist, hynny a ffydd yn ei genhadaeth, yn ogystal 芒 dogn helaeth o barodrwydd i feddwl y tu allan i'r bocs ac i weithredu ar hynny - gwr a welodd 'y seren ddisglair drwy y cwmwl du' yn wir.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy