成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Egni Trofannol Gogerddan
Ebrill 2007
Cyn bo hir fe ellir disgwyl gweld fforestydd trofannol yn tyfu ar diroedd Gogerddan.

Bydd cnydau deuddeg troedfedd o uchder sy'n ymdebygu i famb诺 i'w gweld yn ardal Penrhyn-coch, ond go brin y gwelir eliffant na phanda yn pori'r erwau hynny er mor ddeniadol y byddai'r cnwd hwn iddynt.

Mae gwyddonwyr yn y Fridfa wrthi'n arbrofi gyda'r planhigyn Miscanthus - math ar borfa anferth o'r Dwyrain Pell sydd wedi ennill yr enw poblogaidd Gwair Eliffant Asiaidd. Yn wir bu Dr John Clifton-Brown, sy'n byw ym mhentref Penrhyn-coch, ar daith yn ddiweddar yng ngwledydd China, Japan a Taiwan, gyda chefnogaeth DEFRA, yn casglu enghreifftiau newydd o'r planhigyn, cryn ddau gant a hanner ohonynt, ar gyfer eu datblygu yn ffynhonnell bio-m脿s er mwyn cynhyrchu egni o gnydau. Bu aelod arall o staff y Fridfa allan yno hefyd yn cyfieithu, sef Lin Huang.

Mae'r arbrofion hyn yn hollbwysig bellach wrth i'r gofid am gynhesu byd-eang gynyddu. Bydd hyn yn gam pwysig yn y gwaith o ddarganfod ffynonellau egni newydd na fydd yn llygru'r amgylchfyd ymhellach drwy gynhyrchu mwy o ddeuocsid carbon.

Rhinwedd fawr Miscanthus yw ei fod yn gnwd gwydn iawn sy'n tyfu'n gyflym, ond ar yr un pryd mae'n ddibynadwy iawn o ran cynhyrchu cynhaeaf llwyddiannus. Gall y coedyn dyfu i uchder o bedwar metr o fewn blwyddyn mewn amrywiaeth o hinsoddau gwahanol. Yn Taiwan daethpwyd o hyd i enghreifftiau o'r gwair hwn yn tyfu rhyw 1800 metr uwchlaw'r m么r. Mae'r coedyn yn tyfu o wreiddiau sy'n gynhyrchiol am gyfnodau o ddeg i ddeuddeng mlynedd ac felly ychydig o waith aredig sydd ei angen. Ychydig iawn o angen gwrtaith sydd ar y planhigyn hefyd - y cyfan yn llesol i'r amgylchfyd.

Pwy a 诺yr - cyn bo hir fe all llethrau llwm Pumlumon fod yn frith o blanhigfeydd Miscanthus a'r cyfan yn fodd i ysgafnu'r difrod sy'n digwydd ar hyn o bryd i'r amgylchfyd wrth inni losgi deunydd carbon. Gallai hyn fod yn ffordd arall i ffermwyr lleol arallgyfeirio wrth i'r hen ddulliau o amaethu brofi'n amhroffidiol. DI


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy