成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Jennifer Hughes Etifeddiaeth Gudd
Ionawr 2009
Hanes arddangosfa gyntaf broffesiynol artist ifanc o'r fro a leolwyd yng Nghanolfan Arad Goch.

Mynychodd nifer o drigolion ardal y Tincer arddangosfa gyntaf broffesiynol artist ifanc o'r fro a leolwyd yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ganol fi s Tachwedd.

Effaith gwresogi byd-eang oedd thema ganolig arddangosfa "Etifeddiaeth Gudd" a luniwyd gan Jennifer Hughes, Bodhywel, Bow Street, merch Dewi a Nerys Hughes.

Cafwyd ymateb tra ffafriol a chadarnhaol i'w gwaith arloesol.

Ym mis Gorffennaf eleni graddiodd Jenni, yng Ngholeg Gelf Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin wedi dilyn cwrs yn y Celfyddydau Cain. Mae'n gyn-ddisgybl Ysgolion Dwyieithog Y Dderwen, (Caerfyrddin), Bro Myrddin a Phenweddig ac yn gyn-fyfyrwraig o Goleg Ceredigion.

Gyda'i bryd ar yrfa fel artist, treuliodd Jenni y tri mis o Awst hyd Dachwedd 2008 yng Nghanolfan Arad Goch gan ddefnyddio gofod mae'r Cwmni Theatr mewn Addysg yn gobeithio ei ddatblygu fel cyfl e i artistiaid ifainc feithrin eu doniau a chreu cyweithiau traws gyfrwng celfyddydol.

Amlygodd yr arddangosfa y defnydd o dechnegau arloesol ac arbrofol aml-gyfrwng i greu gweithiau trawiadol a lliwgar iawn yn creu delweddau pwerus o effaith dynolryw ar yr amgylchedd.

Dywed Jenni: "Mae dinistr yr amgylchedd a dirywiad ein planed o gonsyrn mawr i mi. Rwyf wedi cynhyrchu cyfres o dirluniau sy'n cynrychioli anrheolaeth diwydiant a chymdeithas gan awgrymu'r canlyniad posibl i'n planed. Fel arlunydd cain, rwyf 芒 diddordeb yn y broses a phriodweddau natur paent a chyfryngau eraill ac fel y gellir eu defnyddio mewn modd sy'n ymestyn ac yn gallu cyfathrebu'r is destun gwaelodol.

Rwyf wedi defnyddio cyfuniad o gyfryngau er mwyn creu delweddau sy'n weledol hudolus ond eto'n dangos arwyddion dirywiad.

Gosodwyd haenau o inc a phaentiau sglein a mat i awgrymu tirwedd oddi tano sy'n ceulo a dirywio - nas gwelir a nas ystyrir.

Mae pob cynfas wedi'i drin gyda chemegyn er mwyn atgynhyrchu proses dirywiad y Ddaear."

Yn ychwanegol defnyddiwyd perfformiad a ffi lm i atgyfnerthu'r delweddau.

Roedd Jenni'n falch o'r cyfl e i greu ei harddangosfa gyntaf yn Aberystwyth a gwerthfawrogodd gefnogaeth cyfeillion a chydnabod a hefyd gwerthfawrogwyd y cyfl e o fod yr artist cyntaf i fanteisio ar gyfl eusterau Cwmni Arad Goch.

Bellach mae Jenni wedi troi am yr Iwerddon am gyfnod a dymunir yn dda iddi gyda'i gyrfa.

Os na chawsoch gyfl e i fynychu'r arddangosfa mae cyfl e i chwi weld ei gwaith ym mwytai "Treehouse" yn Stryd y Popty a hefyd yn "Ground Coffee" yn Stryd Cambrian, (ar draws y ffordd i Siop Charlie), Aberystwyth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy