Cafwyd ymateb hynod gefnogol yn ystod tymor yr hydref, gyda gwahanol weithgareddau a thrafodaethau yn ennyn diddordeb ieuenctid yr ardal - gan gynnwys ymweliad 芒'r pantomeim yn Felinfach yng nghanol mis Rhagfyr.
Mae rhaglen ar gyfer tymor y gwanwyn yn cael ei llunio a bydd rhai o Swyddogion Ieuenctid Coleg y Bala yn cynnal gweithgareddau. Mae croeso i unrhyw ieuenctid o oedran ysgol uwchradd i ymuno yn y gweithgareddau - cyfle gwych i gymdeithasu gyda chyfoedion mewn awyrgylch lawen a rhydd.
Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i gefnogi'r fenter, ond rydym yn chwilio am wirfoddolwr sydd 芒 diddordeb mewn gwaith ieuenctid i gymryd at arweinyddiaeth "OS METS".
Os oes diddordeb gennych, cysylltwch 芒'r Parch Wyn Morris [01970-820920] neu Dewi Hughes [01970-828026].
Eisoes cafwyd nawdd drwy Gronfa Eleri, eglwysi a chapeli'r cylch ynghyd ag unigolion i gynnal y gweithgaredd - a gwerthfawrogir pob cyfraniad.
 |