Ef oedd gwrthrych y rhaglen deledu Portreadau a ddangoswyd ar S4C nos Sul, 5 Hydref, a'r mis hwn hefyd y cyhoeddir ei gyfrol ddiweddaraf - a'r drydedd yn y gyfres Diwylliant Gweledol Cymru - sef Gweledigaeth yr Oesoedd Canol. Yng Nghaer-wysg yn Nyfnaint y ganwyd ac y magwyd Peter Lord. Yn 1974, wedi cyfnod yn astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Reading, daeth i Gymru ac ymgartrefu yn ardal Trefenter yng Ngheredigion. Er mwyn ymdoddi i r gymdeithas leol, aeth ati ar ei union i ddysgu Cymraeg ac ymhen llai na dwy flynedd yr oedd yn rhugl. Yn sgil dysgu'r iaith, dechreuodd ymddiddori yn niwylliant Cymru, a darganfu mai prin iawn oedd y sylw a roid i'w thraddodiad celfyddydol o gymharu 芒'i thraddodiad barddol a llenyddol. Ar y pryd, roedd arlunwyr Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg - pobl megis William Roos a Hugh Hughes, ynghyd ag Evan Williams a John Cambrian Rowland (y ddau'n enedigol o Ledrod) - yn gwbl anhysbys. Dechreuodd Peter chwilio am weithiau gan arlunwyr fel y rhain ac, yn ei eiriau ef, roedd fel hel mwyar duon. Roedden nhw ym mhobman.
 |