Mae Karen Rees Roberts (nee Hughes), am fynd i'r afael 芒'r her fwyaf iddi eto drwy gymryd rhan yn Rhedwr y Galon ym Marathon Flora 2005 i godi arian angenrheidiol ar gyfer Sefydliad y Galon Prydain. Mae Karen, sy'n 26 oed, - gynt o Geryllan - yn Swyddog Datblygu Chwaraeon yr Anabl yng Ngheredigion. Bydd hi'n gwisgo crys swyddogol Rhedwyr y Galon BHF ac yn rhedeg y cwrs anodd o 26 milltir ar ddydd Sul 17 Ebrill 2005. Mae'n gobeithio gallu codi cymaint o arian ag y bo modd i gynorthwyo'r elusen yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon a chylchrediad y gwaed - sef y clefyd sy'n lladd y mwyaf yn y DU. "Fe benderfynais gymryd rhan am fod mam yn aros am brofion sydd yn ymwneud 芒'r galon. Rwyf yn gobeithio codi dros 拢1,500 ar gyfer gwaith angenrheidiol BHF." Mae clefyd y galon (CHD) yn achosi dros 117, 000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU, tuag un o bob pum dyn, ac un o bob chwe gwraig. Bydd yr holl arian a gesglir gan D卯m Rhedwyr y Galon yn gymorth i sicrhau fod y BHF yn gallu parhau yn y gwaith o ddarganfod achos y clefyd a'i atal. Petaech yn dymuno ymuno 芒 Karen i godi arian ar gyfer ei hymdrech marathon yna cysylltwch a Sue & Mervyn ar 828001 neu galwch 01970 617874 i roi addewid o'ch cefnogaeth. Mi fydd yna ffurflenni noddedig yn Siop & Garej Penrhyn-coch.
 |