Hon oedd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, wedi'i threfnu gan yr Academi Gymreig. Niall Griffiths, g诺r sy'n byw ym Mhenrhyn-coch, a enillodd y wobr Saesneg am ei nofel Stump, a derbyniodd siec am 拢5,000 ynghyd 芒 thlws hardd. Llongyfarchiadau mawr iddo!
Mae Niall yn byw yn Is-y-bryn, y Garth, ers dros flwyddyn bellach, ar 么l symud yma o'r dref gyda'i bartner Deborah, sy'n gweithio i Gymdeithas Tai Cantref.
Un o'r pethau y mae wedi sylwi arno ar 么l symud i'r Penrhyn yw fod y wlad yn lle swnllyd iawn! Na, nid s诺n traffig, ond brefu defaid 芒 s诺n y piod sy'n ei ardd bob bore.
Mae wedi arfer 芒 lleoedd llawer mwy swnllyd, oherwydd un o Lerpwl yw yn wreiddiol, ac yno'i ganed yn 1966. Fel llawer o drigolion y ddinas honno, mae o dras gymysg, gyda Chymry, Gwyddelod a Saeson yn yr achau. Yn wir roedd ei nain o ochr ei fam yn medru Cymraeg - un o Ogledd Cymru ydoedd, a Mostyn oedd ei chyfenw cyn priodi.
Mae'n rhyfedd dweud, ond ni theimlodd Niall ei fod yn Sais go iawn erioed, ac mae'n ystyried ei hun yn rhyw fath o Gymro o Lerpwl yn fwy na dim arall erbyn hyn. Symudodd y teulu i Awstralia pan oedd ef yn ddeg oed, ond yn 么l y daethant i Lerpwl ar 么l rhyw dair blynedd.
Bu ganddo ddiddordeb mawr mewn ysgrifennu er pan mae'n cofio. Astudiodd Saesneg mewn coleg yng Nghaergrawnt, ac wedi hynny bu'n crwydro cryn dipyn o le i le cyn glanio yn Aberystwyth tua 1992. Yma y bu ers hynny, ac er nad oes ganddo unrhyw gysylltiad teuluol 芒'r lle y mae wedi dod i deimlo'n gartrefol iawn yma. Ar 么l setlo yn Aber y daeth o hyd i'w lais fel awdur.
Bu'n gynhyrchiol iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae pedair nofel o'i waith wedi'u cyhoeddi ers 2000, sef Grits, Sheepshagger, Kelly and Victor a Stump. Yn Stump mae'n s么n am 诺r o Lerpwl sydd wedi dianc i Aberystwyth ac sy'n ceisio creu bywyd newydd iddo'i hun yma, ond roedd yn gysylltiedig 芒 phobl amheus iawn yn Lerpwl, a phan glywant lle mae o'n byw, mae dau ohonynt yn cychwyn ar daith gyda'r bwriad o ddial ar eu hen gyfaill.
Mae'r nofel hon, fel ei lyfrau eraill, yn tueddu i s么n am ochr arw bywyd, ac am gymeriadau digon brith. Er hynny, mae'n ysgafnach ei dull na'r llyfrau eraill, ac yn fan cychwyn cystal 芒'r un i rywun sydd heb ddarllen gwaith yr awdur o'r blaen.
Holais yr awdur pam yr oedd ei waith yn tueddu i ddarlunio ochr ddu bywyd. Dywedodd ei fod yn dod o gartref cyffredin ei amgylchiadau, a chartref lle nad oedd fawr o lyfrau. Er hynny, roedd yr arfer o ddweud stor茂au yn gryf iawn yn y teulu, ac mae'n credu mai dyna roddodd iddo flas ar stori. Mae'n cofio hefyd fod llawer o'r straeon hyn yn rhai digon dychrynllyd, stor茂au am ysbrydion ac angladdau a marwolaeth, lawer ohonynt. Roedd ei nain Gymraeg yn arbennig o hoff o straeon felly!
Erbyn hyn mae'n ennill digon o'i ysgrifennu i allu'i gynnai ei hun; er enghraifft, mae ei ail nofel wedi'i chyfieithu i saith o ieithoedd eraill. Mae'n brysur iawn yn ysgrifennu bob dydd gyda'r nofel nesaf eisoes wedi'i gorffen ac i'w chyhoeddi y gwanwyn nesaf.
Roedd hi'n amlwg o'i sgwrs ei fod yn gwbl ymroddedig i'w grefft, ac fod ganddo st么r o straeon eto i'w dweud.
Richard Owen