成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Ysgol Gerdd Ceredigion Ysgol Gerdd yn plesio cynulleidfa
Ebrill 2006
Adroddiad am berfformiad Ysgol Gerdd Ceredigion yng Nghapel y Morfa yn cynnwys comisiwn newydd i'r c么r gan Mererid Hopwood a Hector MacDonald.

Ysgol Gerdd Ceredigion yng Nghapel y Morfa, Nos Wener, 31 Mawrth 2006

Dechreuwyd y cyngerdd mewn modd uchelgeisiol iawn gyda dau ddarn digyfeiliant, and profodd y gambl yn llwyddiant, wrth i'r c么r osod safon arbennig at weddill y cyngerdd. Roedd purdeb sain y c么r, yn enwedig wrth ganu'n unsain, yn ardderchog. Mae Islwyn Evans wedi adeiladu enw da iawn i'r c么r dros y blynyddoedd diwethaf hyn ac roedd ei ddylanwad ar y canu yn eglur yn y rheolaeth oedd ganddo dros y sain. Llwyddodd hefyd i asio amrywiaeth eang o aeddfedrwydd lleisiol yn un sain cytun, o'r plant lleiaf i leisiau newydd-doredig y bechgyn h欧n.

Cafwyd y mwyaf o asbri gan y c么r wrth ganu 'negro spirituals' fel 'Galw Enw'r Iesu' a 'Fy Fflam Fach i' gyda'r cydbwysedd rhwng y galw a'r ateb, yr unawdydd a'r c么r, yn driw i'r arddull. Aeth y noson i hwyl gyda thair eitem gan y bechgyn h欧n, tair c芒n sy'n glasuron yn eu meysydd, sef 'Gwin Beaujolais' gan Robat Arwyn, 'Angels' Robbie Williams a 'Delilah' Syr Tom Jones. Roedd hi'n galonogol a braf iawn i weld cystal criw o fechgyn yn amlwg yn mwynhau eu canu ac yn perfformio gyda chymaint o raen, yn enwedig wrth i'r arweinydd ollwng ei faton ac ymuno gyda'r bechgyn.

Prif waith y noson oedd 'Mabinogi', gwaith comisiwn newydd i'r c么r gan Mererid Hopwood a Hector MacDonald. Fe'n tywyswyd drwy bedair cainc y Mabinogi gan ddeuddeg c芒n amrywiol iawn eu harddull, gan bwysleisio bod rhaid i ni gadw cof y genedl yn fyw drwy gofio lle mae gwreiddiau ein diwylliant mewn oes o newid. Roedd amrywiaeth clyfar o ensemblau yn cael eu defnyddio drwy'r darn ar ei hyd, gan arddangos holl gryfderau'r c么r a'u gallu i amrywio'r gwead yn 么l y galw.

Gwnaed defnydd da o'r unawdwyr hefyd i ddod 芒 phrofiad a mwy o aeddfedrwydd lleisiol i rai o'r caneuon a chynrychiolwyd ardal y Tincer ymysg y rhain gan lais cyfoethog Pete Leggett, Dolau. Elin Llwyd oedd y prif unawdydd a chwaraeodd r么l Rhiannon a Branwen yn ystyriol iawn, and rhoddodd ei pherffomiad gorau fel Blodeuwedd gan iddi lwyddo i ddeall y cymeriad i'r dim a mynegi'r holl gymhlethdodau yn ei phersonoliaeth yn y g芒n sioe gerdd-aidd iawn or un enw.

Roedd cyfeiliant y piano a'r cello yn ddigon syml i heidio tynnu sylw oddi ar yr unawdwyr na'r c么r and yn ddigon clyfar i ychwanegu cyffyrddiadau digon effeithiol at y gwaith, er enghraifft c芒n y drudwy yn y cefndir yn ystod adrodd hanes Branwen a llif tonnau'r m么r wrth i Bendigeidfran a'i luoedd deithio ati. Rhoddwyd cyfle i'r plant lleiaf sefyll ar wahan i'r c么r yn gerddorol wrth gymryd yr awenau mewn dwy o'r caneuon tuag at ganol y gwaith cyn i'r rhai h欧n lywio at y diwedd, wrth i'r plant iau gymryd hoe haeddiannol fel roedd eu lleisi yn dechrau blino ychydig.

Fe ddaeth y noson i ben gyd holl berfformwyr yn canu'r g芒n fwyaf cofiadwy yn y gwaith i mi, sef 'Yn Dy Galon Di'.

Cawsom ein hatgoffa mai stori'r Mabinogi yw'r "stori orau i gyd" ond hefyd roedd yna rybudd amserol o bwysigrwydd parhau i ail-adrodd y straeon i gadw o ble daethom er mwyn symud yn hyderus i'r dyfodol.

Erthygl gan Seiriol Hughes

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Pete Leggett, sydd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Ceerfyrddin ar gael ei benodi i swydd yn Ysgol Comins-coch - bydd yn dechrau ar ei waith fel athro Blwyddyn 6 fis Medi.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy